Mae cyngor Llywodraeth Cymru i bobol gysgodi rhag y coronafeirws yn dod i ben heddiw (dydd Sul, Awst 16).
Roedd ymchwil ar ddechrau’r ymlediad yn awgrymu bod pobol sydd â chyflyrau eraill yn debygol o ddiodde’n waeth na phobol eraill pe baen nhw’n cael eu heintio – ond nad oedden nhw mewn mwy o berygl o gael eu heintio na phobol heb gyflyrau iechyd.
Roedd y llywodraeth yn annog pobol oedd yn cysgodi i olchi eu dwylo ac i gadw’n dynn at gyfyngiadau eraill, fel cadw pellter.
Er gwaetha’r ffaith fod y cyngor yn dod i ben, mae rhai elusennau fel Cymdeithas yr Arennau a Kidney Care UK yn dal i annog pobol i gysgodi ac mae Llywodraeth Cymru’n eu hannog i drafod y mater â meddygon.
Er bod y cyngor yn dod i ben am y tro, mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio y gall fod angen gofyn i bobol gysgodi eto yn ystod y gaeaf pe bai ail don o’r feirws.