Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn dweud bod cyhoeddi’r drefn ar gyfer apelio yn erbyn canlyniadau Safon Uwch yn rhoi “mwy o eglurder” i fyfyrwyr yn dilyn yr helynt dros yr wythnosau diwethaf.

Gall myfyrwyr apelio yn erbyn unrhyw ganlyniadau sy’n is na’r hyn a gafodd ei ddarogan gan athrawon.

Dywedodd Kirsty Williams ddydd Mercher (Awst 12) na fyddai unrhyw fyfyriwr yn cael graddau is na’u graddau Uwch Gyfrannol.

Ond gydag arholiadau’n cael eu canslo yn sgil y coronafeirws, cafodd 42% o raddau eu gostwng, wrth i fyfyrwyr gyhuddo Llywodraeth Cymru o anghofio amdanyn nhw pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ddydd Iau (Awst 13).

Yn ôl Cymwysterau Cymru, roedd rhai athrawon wedi bod yn rhy hael wrth asesu’r myfyrwyr gydag ymchwil yn awgrymu bod y rhai sy’n derbyn prydau bwyd am ddim hefyd wedi cael eu ffafrio dros y rhai nad ydyn nhw’n eu derbyn.

Apelio

Daw datganiad Kirsty Williams ar ôl i brifysgolion dderbyn canlyniadau’r myfyrwyr er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch llefydd ar gyrsiau.

Mae hynny’n golygu bod nifer fawr o fyfyrwyr eisoes wedi cael clywed nad ydyn nhw wedi cael eu derbyn yn sgil canlyniadau is na’r disgwyl.

Ond mae Cymwysterau Cymru wedi egluro sut gall y myfyrwyr hynny apelio.

Mae modd apelio, meddai’r corff, os oes tystiolaeth fod asesiadau mewnol wedi cael eu marcio’n uwch na’r graddau terfynol.

Ond maen nhw’n dweud y bydd rhaid i asesiadau fodloni nifer o feini prawf sydd heb gael eu cyhoeddi eto.

Bydd marciau’n gallu cael eu codi fel eu bod yn cyfateb i asesiadau mewnol, ond nid yn uwch na hynny.

Ymateb Kirsty Williams

“Rhoddais gyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru yn gynharach yr wythnos hon i ehangu’r sail ar gyfer apelio am Gymwysterau Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU,” meddai Kirsty Williams.

“Maen nhw wedi cadarnhau beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr. Yr wyf yn derbyn bod dysgwyr eisiau ac angen mwy o eglurder, a chredaf fod hyn yn cyflawni hynny.

“Bydd Cymwysterau Cymru a CBAC yn rhannu’r manylion llawn, ond gellir nawr gwneud apeliadau pan fo tystiolaeth o asesiadau mewnol y mae’r ysgol neu’r coleg wedi barnu eu bod ar radd uwch na’r radd a ddyfarnwyd iddynt.

“Mae sicrwydd na fydd neb yn cael gradd is wedi apelio, ac mae pob apêl yn rhad ac am ddim.”