Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn Slough ar amheuaeth o smyglo pobol.
Mae’r ddau, sy’n 21 a 23 oed, yn dod o Affganistan yn wreiddiol ond maen nhw bellach wedi cael dinasyddiaeth Brydeinig.
Pan gawson nhw eu harestio, roedden nhw gyda dau o bobol eraill o Affganistan sydd wedi dod i wledydd Prydain yn anghyfreithlon.
Cafodd y pedwar eu harestio yn dilyn ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) i gaethwasiaeth a thorcyfraith oedd wedi cael ei drefnu.
Mae’r pedwar wedi cael eu holi yn y ddalfa wrth i’r heddlu chwilio eiddo yn ardal Edgware yng ngogledd Llundain.