Mae Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, wedi dweud bod ffoaduriaid yn dod i wledydd Prydain oherwydd bod Ffrainc yn “wlad hiliol” a’u bod nhw’n ofni cael eu “harteithio” pe baen nhw’n mynd yno.

Mae adroddiadau iddi wneud y sylwadau mewn sgwrs ffôn ag aelodau seneddol Ceidwadol sy’n poeni am y niferoedd uchel o ffoaduriaid fu’n ceisio croesi’r Sianel mewn cychod bach yn ddiweddar.

Dywedodd un aelod seneddol wrth The Sun fod Priti Patel wedi dweud bod “rhai yn credu bod hiliaeth yn broblem”, eu bod nhw’n “ofni rhagfarn wrth chwilio am waith” a bod eraill “yn ofni cael eu harteithio pe baen nhw’n aros yn Ffrainc neu’r Almaen”.

Yn ôl ffynhonnell o fewn y llywodraeth, dydy hi ddim yn rhannu’r pryderon ac fe ddywedodd aelod seneddol oedd yn rhan o’r sgwrs ei bod hi’n rhannu’r safbwynt fod y Ffrancwyr yn hiliol.

“Roedd hi’n eu galw nhw’n hiliol ac mae hi’n iawn, maen nhw’n fwy hiliol na ni,” meddai un aelod seneddol.

Ymateb y Swyddfa Gartref

Yn ôl llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref, mae Llywodraeth Prydain yn cydweithio ag awdurdodau Ffrainc i atal teithiau cychod bach ar draws y Sianel.

Ond maen nhw’n ofni mai prin yw’r grym sydd ganddyn nhw i weithredu hyd nes bod cyfnod pontio Brexit ar ben ar ddiwedd y flwyddyn.