Mae myfyrwyr Safon Uwch yn Lloegr yn dwyn achos yn erbyn y corff arholi Ofqual yn sgil yr hyn maen nhw’n ei alw’n drefn arholi “wallgof”.

Cafodd bron i 40% o ganlyniadau eu hisraddio gan algorithm, oedd yn golygu bod nifer fawr o fyfyrwyr heb gael mynd i’r brifysgol oedd yn ddewis cyntaf ganddyn nhw.

Mae Curtis Parfitt-Ford, y myfyriwr sydd wedi dechrau’r achos, yn galw am orfodi Ofqual “i greu system decach”.

Er iddo yntau dderbyn y graddau disgwyliedig, cafodd ei sbarduno i weithredu wrth weld ei ffrindiau’n colli allan.

Mae e wedi sefydlu tudalen codi arian, gan godi dros £15,000 o fewn deuddydd.

“Mae’r llywodraeth yn chwarae gwleidyddiaeth â’n dyfodol ni,” meddai wrth y Press Association.

“Beth bynnag sy’n digwydd, mae hyn yn mynd i effeithio miloedd o fyfyrwyr.”

Amlinellu’r achos

Mae cyfreithwyr wedi llunio dogfen 22 tudalen yn cyflwyno’u dadleuon.

Maen nhw’n dweud nad yw’r drefn arholi’n “rhesymegol” ac yn honni nad yw’n gyfreithlon.

Oriau ar ôl i Ofqual gyhoeddi’r canllawiau ar gyfer apelio, dywedodd y corff fod adolygiad yn cael ei gynnal.

Mae rhai yn dweud bod y drefn yn “ddryslyd” ac y dylai fod wedi cael ei gyflwyno cyn bod helynt.

Achos arall

Mae’r Good Law Project yn cefnogi chwech o fyfyrwyr eraill mewn adolygiad barnwrol o “fethiannau” Ofqual.

Roedd cynnydd o 4.7% yn nifer y myfyrwyr mewn ysgolion annibynnol oedd wedi derbyn graddau A* neu A o’i gymharu â’r llynedd ac o’i gymharu hefyd â chynnydd o 2% yn ysgolion y wladwriaeth.

Cafodd graddau un o’r myfyrwyr sy’n dwyn achos eu gostwng o BBB i EEE ac mae’n dweud ei fod e’n “ddigalon”.

Mae’r myfyrwyr yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o alluogi algorithm i benderfynu eu dyfodol, gan ddweud bod hynny’n “anghyfiawn”.

Mae’r Good Law Project wedi codi dros £41,000 ar gyfer yr achos i helpu’r myfyrwyr gyda’u ffïoedd cyfreithiol.