Mae mam y plismon Andrew Harper a gafodd ei ladd wrth ei waith yn annog gwraig diplomydd i ddychwelyd i wledydd Prydain i wynebu achos mewn perthynas â marwolaeth Harry Dunn.

Cafodd y dyn 19 oed ei ladd pan gafodd ei feic ei daro gan gar Anne Sacoolas, sydd wedi dychwelyd i’r Unol Daleithiau gan fanteisio ar fraint ddiplomyddol.

Cafodd hi ei chyhuddo cyn mynd o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Daeth Debbie Adlam yn ffrind i Charlotte Charles ar ôl i’r ddau golli eu meibion o fewn 12 diwrnod i’w gilydd fis Awst y llynedd.

Cafodd Andrew Harper ei ladd wrth geisio atal tri o ladron rhag dianc ar ôl iddyn nhw ddwyn beic pedair olwyn yn Swydd Berkshire.

Llythyr

Mae Debbie Adlam wedi anfon llythyr at Anne Sacoolas yn gofyn iddi ystyried sut mae hi a Charlotte Charles yn teimlo ar ôl colli eu meibion, gan ddweud bod eu “byd yn deilchion”.

Dywed nad oes modd mesur colled y ddwy ohonyn nhw, ar ôl i’w mab hithau gael ei lusgo mwy na milltir o dan olwynion y beic.

Roedd e newydd briodi, meddai.

Mae’n dweud bod anafiadau’r ddau ddyn “yn erchyll”.

“Fel mam eich hun, allwch chi ddechrau dychmygu beth pe bai’r hyn ddigwyddodd i Andrew a Harry wedi digwydd i un o’ch plant chi?” meddai yn ei llythyr.

“Rhaid i Charlotte a fi fyw trwy orfod wynebu’r realiti yma bob dydd a nos.”

Cafodd Henry Long, 19, a Jessie Cole ac Albert Bowers, 18, eu carcharu am ddynladdiad Andrew Harper ac mae mam y plismon yn galw am “Ddeddf Andrew” i sicrhau bod unrhyw un sy’n lladd plismon yn cael eu carcharu am o leiaf 20 mlynedd.

Mae ei fam yn dweud “nad yw’n rhy hwyr” i Anne Sacoolas wynebu’r hyn mae hi wedi’i wneud.