Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi bydd parthau diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion yn cael eu hymestyn yn dilyn ymgynghoriad diweddar.
Ers Gorffennaf 13 mae strydoedd yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd wedi eu cau i gerbydau rhwng 10 y bore a 6 yr hwyr bob dydd er mwyn creu gofod lle gall pobol gerdded o gwmpas yn ddiogel.
Roedd 64% naill ai’n cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r egwyddor o greu parthau diogel yn y sir.
Yn dilyn yr ymgynghoriad mae gorchymyn traffig newydd wedi cael ei roi ar waith a fydd yn golygu bydd modd i’r Cyngor Sir barhau i gau’r strydoedd dros y 18 mis nesaf hyd nes Chwefror 2022.
“Y farn bresennol yw bod angen cadw’r parthau diogel tan o leiaf fis Hydref, ond caiff hyn ei adolygu’n barhaus a’i newid os bydd angen, yn unol â nifer yr achosion y coronafeirws yn y sir”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Effaith ar bobol anabl
Ond roedd 52% o’r farn bod yr effaith ar bobol anabl, deiliaid Bathodynnau Glas a’r henoed yn wael neu’n wael iawn.
O ganlyniad i hyn mae’r Cyngor Sir wedi cyflwyno newidiadau.
“Rydym wrthi’n ystyried sawl agwedd ar y parthau a sut y gellir eu datblygu a’u gwella, gan gynnwys ystyriaethau mynediad”, meddai’r llefarydd.
“Rydym wedi creu mwy o lefydd parcio i bobol anabl ac yn bwriadu gwneud rhagor o welliannau lle bo hynny’n bosibl.”
Canfyddiadau eraill yr ymgynghoriad:
- Roedd 37% yn credu bod y parthau diogel yn cael effaith dda neu dda iawn ar fusnesau
- Roedd 26% yn credu bod y parthau diogel yn cael effaith wael neu wael iawn ar fusnesau.
- Roedd 52% yn credu eu bod yn cael effaith dda neu dda iawn ar awyrgylch y trefi.
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal ymgynghoriad pellach yn y dyfodol agos i weld a ddylid cynnal y parthau hyn eto yn y blynyddoedd sydd i ddod a beth fydd angen i’r Cyngor ei wneud i’w gwella.