Mae’r argyfwng covid wedi “cyflymu’r broses” o gwmnïau mawr yn heidio o Gaerfyrddin, yn ôl maer y dre.

Ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth mae canghennau Topshop, Topman  a Miss Selfridge y dre wedi’u cau.

Yr wythnos ddiwetha’ wnaeth River Island gyhoeddi y byddan nhw’n cau ei siop yno, ac ar ddechrau’r wythnos yma wnaeth Fat Face ddatgelu y byddan nhw hefyd yn gadael.

Mae Gareth John, Maer Caerfyrddin, yn cydnabod nad oes gan bobol leol “lot o ddylanwad” ar benderfyniadau’r cwmnïau yma, ond mae’n pwysleisio nad peth newydd yw hyn.

“Pwy fyddai wedi rhagweld effaith y we – Amazon yn enwedig?” meddai wrth golwg360.

“Roedd y patrymau yma – a’r dystiolaeth ohonynt – yna cyn y feirws. Ond mae’r feirws wedi cyflymu’r broses yna lan.

“Ac mae’n amlwg bod y siopau mawr cenedlaethol â phroblemau syfrdanol. A beth sy’n dreifo hynna yw bod patrwm siopwyr wedi newid.”

“Dyfodol disglair”

Yn Rhodfa Santes Catrin mae – neu oedd – yr holl siopau uchod, ac mae’r ardal yma’n llawn canghennau cwmnïau mawr.

Cafodd ganolfan siopa ei sefydlu yn 2010, ac mae’r ddegawd ddiwetha’ wedi bod yn “llwyddiannus iawn a llewyrchus”, ym marn y maer.

Er bod y cwmnïau hyn yn heidio o Gaerfyrddin, mae’r maer yn ddigon optimistaidd ar y cyfan.

“Dw i’n ffyddiog iawn bod gan Gaerfyrddin ddyfodol disglair,” meddai. “Mae manteision gyda ni fel tre… Mae Caerfyrddin wedi datblygu ac addasu dros y canrifoedd.

“A gyda’r cyfnod hyn bydd yn rhaid i ni addasu unwaith eto a defnyddio’r asedau a chyfleoedd sydd gyda ni rownd y dre.”

Yng nghanol yr argyfwng covid, ac yng nghysgod y newyddion yma, mae’n pwysleisio’r angen i bobol siopa yn lleol a chefnogi busnesau lleol.

Rhagor o optimistiaeth

Mae John Nash, rheolwr canolfan Rhodfa Santes Catrin, wedi sôn am y “siom” ym mhenderfyniad Fat Face, ond mae yntau hefyd yn teimlo optimistiaeth.

“Mae’r nifer o achosion coronafeirws newydd yn llai na deg,” meddai. “Ac wrth i’r cyfyngiadau barhau i godi mae cwsmeriaid yn dychwelyd i Gaerfyrddin ac i’r rhodfa.”

Mae’n pwysleisio bod y rhan fwyaf o fwytai’r rhodfa ar agor, ac mae’n dweud bod disgwyl i sinema Vue y ganolfan ailagor ddiwedd Awst.

Hefyd mae’n dweud bod sgyrsiau yn mynd rhagddynt â chwmnïau eraill ynghylch agor siopau yno: “Wrth gwrs, mi rown wybod i siopwyr pan fydd newyddion da am gwmnïau newydd yn dod i’r dre.”