Am yr ail ddiwrnod yn olynol, does dim adroddiadau o farwolaethau pobl sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws yng Nghymru.

Mae cyfanswm y marwolaethau ers cychwyn y pandemig yn aros ar 1,586, yn ôl cyhoeddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae cyfanswm yr achosion coronafeirws wedi codi i 17,516, cynnydd o 18 o gymharu â ddoe.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi hefyd fod y clwstwr o achosion a oedd yn gysylltiedig â ffatri 2 Sisters yn Llangefni drosodd bellach. Roedd hyn yn dilyn  ymchwiliad gan y Tîm Rheoli Achosion yno a chadarnhad na fu unrhyw achosion newydd.

Does dim tystiolaeth fod yr haint yn lledaenu’n helaeth yn ardal Wrecsam chwaith, er gwaethaf pryderon yno’n ddiweddar. Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru i hyn gael ei gadarnhau mewn cyfarfod o’r Tîm Rheoli Achosion ddydd Mercher.