Mae un o bwyllgorau mwyaf dylanwadol Senedd yr Alban yn rhybuddio yn erbyn gorfodi marchnad fewnol Brydeinig heb gytundeb rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth Prydain.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth yr Alban ddatgan pryder bod y cynlluniau am farchnad fewnol rhwng y pedair gwlad ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit yn tanseilio’r grymoedd sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd.

Ar ôl gwrando ar dystiolaeth ar y cynlluniau, mae Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes Prydain yn pwyso am “barch I’r trefniadau cyfansoddiadol presennol”.

Ar ran y pwyllgor, dywedodd y cadeirydd, Bruce Crawford, fod diffyg manylion yng nghynlluniau Llywodraeth Prydain.

“Mae gwneud marchnad fewnol yn golygu cyfaddawdu a chydbwyso,” meddai.

“Mae cyfrifoldeb ar bob un o’r pedair llywodraeth a’r deddfwrfeydd ledled y Deyrnas Unedig i weithio’n adeiladol gyda’I gilydd i geisio ateb i’r mater cymhleth a heriol hwn.

“Yn benodol, fel mae’r pwyllgor hwn wedi’i bwysleisio lawer gwaith – rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl Brexit, barchu’r setliad datganoli.

“Rhaid sicrhau consensws ac mae hyn yn gofyn am drafodaeth lawer hirach, mwy cynhwyso a manylach na’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.”

Wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Ysgrifennydd Cyfansoddiad yr Alban, Mike Russell, fod llywodraeth yr Alban yn ystyried cymryd camau cyfreithiol I herio’r cynlluniau.

“Mae’n dangos yn glir beth yw agenda Llywodraeth bresennol Prydain, sy’n elyniaethus at ddatganoli ac yn arbennig o elyniaethus at Gymru a’r Alban yn gweithredu eu hawliau datganoli,” meddai.