Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno mesurau newydd er mwyn cynyddu’r defnydd o wlân Prydeinig mewn tai ac adeiladau cyhoeddus.

Daw’r alwad yma oddi wrth undeb ffermio NFU Cymru mewn llythyr at Julie James, Gweinidog Tai ac Awdurdodau Lleol Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw yr undeb, dylai’r Llywodraeth gynorthwyo ffermwyr Cymru trwy sicrhau defnyddio gwlân mewn adeiladau cyhoeddus (mewn carpedi, er enghraifft).

Mae’r llythyr hefyd yn galw am ddefnydd gwlân i inswleiddio adeiladau hen a newydd.

Y llythyr

“Rydym ni’n credu bod yna gyfleoedd i gynyddu’r galw trwy’r farchnad ddomestig yma yng Nghymru,” meddai Wyn Evans yn y llythyr.

“Gallai Llywodraeth Cymru chwarae rhan sylweddol yn hyn o beth, gan wireddu ei hymrwymiad i amddiffyn a gwella’r amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol.”

Daw’r llythyr yng nghanol yr argyfwng covid-19, ac yn ystod haf lle mae’r pris mae ffermwyr defaid yn ei dderbyn am wlân wedi cwympo.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.