Mae teithwyr sy’n dymuno dychwelyd o Ffrainc i wledydd Prydain cyn i gyfnod cwarantin newydd ddod i rym ddydd Sadwrn (Awst 15), yn wynebu cynnydd sylweddol ym mhris eu taith.
Pris hedfan o Baris i Gaerdydd brynhawn dydd Gwener (Awst 14) yw £256, ac mae hedfan o Baris i Lundain chwe gwaith yn uwch na’r arfer.
Mae’r prisiau hefyd wedi cynnyddu ar yr Eurostar – y tocyn rhataf o Baris i Lundain fore dydd Gwener (Awst 14) oedd £210.
Byddai’r un daith fel arfer wedi costio tua £60.
Bydd rhaid i bawb sy’n cyrraedd gwledydd Prydain o Ffrainc o ddydd Sadwrn ymlaen dreulio 14 diwrnod dan gwarantin.
Daw’r cam yn rhannol yn sgil naid yn nifer yr achosion covid-19 yn Ffrainc, lle bellach mae yna 32.1 achos i bob 100,000 person – 18.5 yw’r ffigur yn y Deyrnas Unedig.
Bydd rhaid i deithwyr o Monaco, yr Iseldiroedd, Malta, Ynysoedd Turks a Caicos, ac Arwba hefyd dreulio 14 diwrnod dan gwarantin.
160,000 o bobol
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps fod disgwyl i oddeutu 160,000 o bobol sydd ar eu gwyliau yn Ffrainc geisio dychwelyd i wledydd Prydain ddydd Gwener.
Mynnodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth fod y Llywodraeth wedi cymryd “dull ymarferol” wrth gyflwyno’r cyfyngiadau newydd.
“Mae’n ddull ymarferol, sydd wedi galluogi pob rhan o’r Deyrnas Unedig – yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr – i weithredu’r un amser am 4 y bore lle nad oes hediadau yn yr awyr.
“Gallwch ddadlau un ffordd neu’r llall. Roedd rhaid i ni wneud penderfyniad ac mae’n rhaid i ni wneud hynny yn seiliedig ar wyddoniaeth, a dyna beth rydyn ni wedi’i wneud, rydyn ni wedi cymryd y cyngor a gweithredu ar sail hynny.”
Dywedodd Clement Beaune, ysgrifennydd gwladol materion Ewropeaidd Ffrainc, y byddai’r penderfyniad yn arwain at “fesurau dwyochrog” ar draws y sianel, a’i fod yn gobeithio gall y sefyllfa “ddychwelyd i normal cyn gynted â phosibl.”