Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn gosod rheolau cwarantin ar ragor o wledydd, yn unol â’r cam sy’n cael ei gymryd gan Lywodraeth San Steffan.

O ddydd Sadwrn ymlaen mi fydd teithwyr o Ffrainc, Monaco, yr Iseldiroedd, Malta, Ynysoedd Turks a Caicos, ac Arwba; yn gorfod treulio 14 diwrnod dan gwarantin ar ôl cyrraedd Prydain.

Hyd yma mae teithwyr o’r gwledydd yma wedi medru teithio i Gymru a gweddill Prydain yn ddirwystr.

Daw’r cam yn rhannol yn sgil naid yn nifer yr achosion covid-19 yn Ffrainc, lle bellach mae yna 32.1 achos i bob 100,000 person – 18.5 yw’r ffigur yn y Deyrnas Unedig.

Yn sgil hyn i gyd mae’r Swyddfa Dramor yn cynghori’r cyhoedd i beidio ymweld â’r wlad, oni bai bod teithio yno yn hanfodol.

“Hollol anhrugarog”

Daeth cyhoeddiad Llywodraeth Cymru wedi i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi y byddai teithwyr o’r chwe gwlad honno yn gorfod wynebu cwarantin.

“Rhaid bod yn gwbl llym – hyd yn oed â’n ffrindiau a phartneriaid closaf,” meddai Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. “Dw i’n credu bod pawb yn deall hynny.”