Mae disgwyl rhagor o dyrfau dros y penwythnos hyd at ddechrau’r wythnos nesa’.

Mae rhybudd tywydd melyn mewn grym dros Gymru a rhannau helaeth o Loegr, o heddiw tan ddydd Llun.

Ac yn ôl y Swyddfa Dywydd mae yna bosibiliad y bydd yna “gesair mawr” dros y diwrnodau nesa’, yn ogystal â llifogydd a all achosi difrod i adeiladau.

Mae yna bosibiliad y bydd gwasanaethau trên a bysys yn cael eu gohirio neu eu canslo, ac mae’n bosib y bydd yn rhaid cau rhai ffyrdd oherwydd llifogydd.

Hefyd mae yna “bosibiliad bychan” y bydd adeiladau a busnesau yn colli cyflenwadau pŵer.

Wythnos o daranau

Daw’r rhybuddion tywydd yn sgil wythnos o dywydd poeth a thyrfau.

Roedd yna dywydd garw ledled y wlad ar ddechrau’r wythnos, ac ymhlith y trefi a gafodd eu taro’n wael oedd Aberystwyth.