Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, wedi cyhoeddi cronfa newydd a fydd yn ymestyn y cymorth sydd ar gael i wasanaethau gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd y gronfa newydd, y Gronfa Argyfwng ar gyfer Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol, yn cymryd lle’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol bresennol pan gaiff ei lansio ddydd Llun (Awst 17)
“Mewn cyfnod o 14 wythnos, mae Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu bron i £7.1 miliwn i 156 o sefydliadau gwirfoddol a fu’n gweithio ar y rheng flaen i gefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai Jane Hutt.
“Mae elusennau, sefydliadau yn y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol wrth i ni ymateb i’r argyfwng Covid-19, ac ni fydd ein cefnogaeth i’r sector gwirfoddol yn dod i ben yma.”
Dywedodd y bydd y gronfa newydd yn “hanfodol” wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws cael ei llacio.
“Bydd y gronfa newydd yn helpu’r trydydd sector i gyflenwi gwasanaethau hanfodol ar draws Cymru ac i addasu i fodloni anghenion newydd”, meddai, gan ychwanegu y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwneud cais i’r gronfa maes o law.
‘Gwaith hanfodol’
Yn ôl Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. mae anghenion y sector gwirfoddol wedi newid.
“Mae gweld y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud gan fudiadau gwirfoddol i gynorthwyo aelodau mwyaf bregus o’n cymdeithas yng Nghymru drwy’r cyfnod hwn, wedi bod yn brofiad ysbrydoledig”, meddai.
“Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi’r gwaith hwnnw.
“Mae’n bwysig ein bod yn addasu ein cymorth, a diben y cynllun grant argyfwng hwn, i alluogi sefydliadau gwirfoddol i fynd i’r afael a’r heriau gwahanol sy’n ein hwynebu dros y misoedd nesaf.”