Byddai’n well gan 37% o bobl Cymru weld ymwelwyr o Loegr yn cadw draw oddi yma, o gymharu â 50% a fyddai’n barod i’w croesawu heb gyfnod o gwarantin.
Yn ôl arolwg newydd gan YouGov, mae’r ganran o 37% sy’n gwrthwynebu ymwelwyr o Loegr yn codi i 54% ymhlith pleidleiswyr Plaid Cymru a 44% o bleidleiswyr Llafur. Dim ond 24% o bleidleiswyr Torïaidd sy’n rhannu’r farn fodd bynnag.
Lleiafrif o bleidleiswyr Plaid Cymru – 37% – a fyddai’n ffafrio mynediad di-gwarantin i Gymru o Loegr, o gymharu â 44% o bleidleiswyr Llafur a mwyafrif llethol – 65% – o Dorïaid.
Mae arolwg cyfochrog gan yr un cwmni sy’n gofyn yr un cwestiynau i bobl yn yr Alban yn dangos agweddau gweddol debyg. Yno, mae 40% yn gwrthwynebu mynediad diamod i bobl o Loegr o gymharu â 47% a fyddai’n eu croesawu heb gwarantin.
Fel yng Nghymru, mae’r canrannau’n amrywio yn ôl teyrngarwch gwleidyddol. Mae 54% o bleidleiswyr yr SNP a 52% o gefnogwyr annibyniaeth yn dweud na ddylai ymwelwyr o Loegr gael croesi’r ffin ar hyn o bryd. Mae’r mwyafrif o’r rheini a bleidleisiodd yn erbyn annibyniaeth yn 2014, fodd bynnag, yn cefnogi caniatáu ymwelwyr o Loegr – 55% o gymharu â 30%.
Mae’n ymddangos y byddai mwy o groeso yn yr Alban i Gymry a Gwyddelod nag i Saeson. Dim ond 29% a fyddai’n gwrthwynebu ymwelwyr o Gymru a 28% yn erbyn ymwelwyr o Ogledd Iwerddon.