Mae gêm olaf cystadleuaeth Super Rugby Aotearoa a oedd i fod i gael ei chwarae yn Auckland ddydd Sul (Awst 16) wedi ei chanslo yn sgil yr achosion newydd o’r coronafeirws yn y ddinas.

Roedd 43,000 o docynnau wedi eu gwerthu i’r gêm rhwng y Blues a’r Crusaders yn Eden Park, yn ninas fwyaf Seland Newydd.

Cadarnhaodd Llywodraeth Seland Newydd ddydd Gwener (Awst 14) y byddai’r cyfnod clo yn Auckland yn cael ei ymestyn am 12 diwrnod arall ar ôl i achosion newydd o’r coronafeirws cael eu cofnodi yn Seland Newydd am y tro cyntaf ers 102 o ddiwrnodau.

Mae gofyn i bobol sy’n byw yn ardal Auckland i aros o fewn eu swigen ac i ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol lefel 3.

Fis Mehefin cystadleuaeth Super Rugby Aotearoa oedd un o’r digwyddiadau torfol cyntaf i adael i gefnogwyr fynychu – wythnos cyn i’r gystadleuaeth ddechrau cyhoeddodd Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd, ei bod nhw wedi “wedi cael gwared ar y coronafeirws”.

Mae pryder fod y gêm rhwng ynysoedd y Gogledd a’r De, sydd i’w chwarae yn Eden Park ar Awst 29, hefyd yn y fantol os na chaiff y clo yn Auckland ei ostwng i lefel 1 cyn hynny.

Ond mae Rygbi Seland Newydd wedi cadarnhau y bydd y gêm rhwng yr Highlanders a’r Hurricanes yn Dunedin, lle mae cyfyngiadau lefel 2 mewn lle, yn mynd yn ei blaen ddydd Sadwrn (Awst 15).

Bydd y gêm yma yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

Ers dechrau’r gystadleuaeth mae S4C wedi bod yn dangos uchafbwyntiau o’r gemau bob nos Sul.

Y tabl

O ganlyniad i’r newid bydd y gêm rhwng y Blues a’r Crusaders yn gêm gyfartal a’r ddau dîm yn ennill dau bwynt yr un.

Mae’r Crusaders, sydd eisoes wedi ennill teitl Super Rugby Aotearoa, bellach â 30 pwynt.

Mae’r Blues sydd yn ail â 24 pwynt, ond gallent gwympo i’r trydydd safle pe bai’r Hurricanes yn curo’r Highlanders.

Y Chiefs, tîm cyn hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, sydd ar waelod y tabl. Dydy’r Chiefs ddim wedi ennill gêm yn y gystadleuaeth.

Rygbi yng Nghymru

Cafodd y Pro14 ei ohirio ym mis Mawrth yn sgil y pandemig, ond bydd yn ailddechrau’r penwythnos nesaf tu ôl i ddrysau caeedig.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Gleision tra bydd y Gweilch yn herio’r Dreigiau ar y penwythnos agoriadol (Awst 22-23).

Bydd gemau darbi traddodiadol yn cael eu cynnal ar ddau benwythnos olaf mis Awst yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon a’r Eidal.