Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi cael yr hawl i ddangos uchafbwyntiau gemau Super Rugby.
O Fehefin 13 bydd pum tîm proffesiynol Seland Newydd – Blues, Hurricanes, Crusaders, Highlanders a chlwb Warren Gatland, y Chiefs – yn cymryd rhan nghystadleuaeth Super Rugby Aotearoa.
Bydd y pum tîm chwarae yn erbyn ei gilydd, gartref ac oddi cartref, dros 10 wythnos, gyda dwy gêm yn cael ei chwarae bob penwythnos.
Mi fydd Clwb Rygbi yn dangos rhaglen uchafbwyntiau o’r ddwy gêm bob penwythnos.
Daw hyn ar ôl i S4C ddod i gytundeb gyda darlledwr y gystadleuaeth yn y Deyrnas Unedig, Sky Sports.
Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau yn cychwyn ar Ddydd Sul (Mehefin 14) am 10.00 yr hwyr, ac ar gael i’w wylio ar alw ar S4C Clic.
“Mae’n bleser mawr dangos uchafbwyntiau o’r gynghrair sydd yn arwain y gad yn y byd rygbi,” meddai Gareth Rhys Owen, Cyflwynydd y Clwb Rygbi.
“Mae’r brand o rygbi sy’n cael ei chwarae yn Super Rugby yn gyffrous tu hwnt, a llawn tempo a sgiliau gwych, fyddai’n apelio nid yn unig i gefnogwyr rygbi, ond i unrhyw un sy’n hoffi chwaraeon.
“Mae’r ffaith bod ‘da ni’r platfform yma i ddangos rhaglenni uchafbwyntiau sylweddol yn newyddion gwych. Dw i methu aros.”
Tra bod Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler wedi dweud: “Tra ein bod ni’n disgwyl i rygbi ail-ddechrau gartref, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd S4C yn dangos yr unig gystadleuaeth rygbi undeb sy’n cael ei chwarae yn y byd ar hyn o bryd.
“Rydw i’n gobeithio y bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau gwylio timau arbennig Seland Newydd yn herio’i gilydd yn y gystadleuaeth newydd a hynod gyffrous yma.”