Mae pennaeth recriwtio tîm pêl-droed Abertawe yn dweud bod y gwaith o chwilio am chwaraewyr newydd yn parhau, er nad yw gemau’n cael eu cynnal ond mewn nifer fach o wledydd yn sgil y coronafeirws.
Daeth gemau yng nghynghreiriau Lloegr i ben ddechrau mis Mawrth a dim ond ambell wlad sydd wedi dechrau cynnal gemau eto ers llacio’r cyfyngiadau.
Bydd Uwch Gynghrair Lloegr yn dychwelyd ar Fehefin 17, gyda’r Bencampwriaeth yn dychwelyd dridiau’n ddiweddarach – a bydd yr holl gemau’n cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caëedig am y tro.
Gwaith y pennaeth recriwtio
Yn absenoldeb gemau byw i’w gwylio, sut mae pennaeth recriwtio yn dod o hyd i chwaraewyr newydd?
Yn ôl Andy Scott, mae’n fater o wylio’r ychydig gemau sy’n cael eu cynnal ym mhob rhan o’r byd.
“Mae gyda ni ofynion o ran safleoedd a phroffil ac rydym yn creu rhestr fer, ac rydyn ni wedi bod yn edrych arni,” meddai.
“Ro’n i wedi cynllunio i gyfarfod â nifer o asiantiaid, sydd wedi’i ohirio am y tro oherwydd y coronafeirws, ond rydyn ni nawr yn bwrw ymlaen gyda llawer mwy o waith.
“O safbwynt sgowtio, mae’n golygu gwylio llawer iawn o gemau.
“Dw i’n defnyddio WyScout ac InStat, sy’n fy ngalluogi i wylio unrhyw gêm bêl-droed broffesiynol yn y byd.
“Yn Abertawe, mae’n rhaid i ni feddwl y tu allan i’r bocs.
“Does dim pwrpas i fi fynd i gêm i wylio chwaraewr lle mae llawer iawn o sgowtiaid yn gwneud yr un fath i glybiau mwy o faint sydd â chyllidebau mwy o faint.
“Mae hi’r un fath nawr – dw i’n gwylio gemau a chwaraewyr o bob cwr o’r byd.
“Mae fy ngwaith yn dechrau wrth i fi adnabod chwarae, ac yna asesu safon y gynghrair a’r clybiau a chymharu hynny â’r safon sy’n ofynnol i ni.
“Gall fod yn chwarae o’r Bundesliga 2 yn yr Almaen, y Segunda yn Sbaen neu gynghreiriau yng Ngwlad Pwyl, Slofacia, Slofenia neu Iwerddon, er enghraifft.
“Felly mae digon o waith yn digwydd y tu ôl i ddrysau caëedig a fydd, gobeithio, yn ein helpu ni’r tymor nesaf.”