Yn y darn diweddaraf yn edrych yn ôl ar rai o gemau criced y gorffennol, gêm ugain pelawd ar gae Old Deer Park yn 2018 sydd dan sylw y tro hwn.

Morgannwg oedd yr ymwelwyr ag un o gaeau allanol Middlesex yn Richmond, lle’r oedden nhw’n mynd am drydedd buddugoliaeth mewn chwe niwrnod yn eu hymgyrch yn y T20 Blast.

Roedd Ruaidhri Smith, sy’n enedigol o Gaerdydd ond sy’n cynrychioli’r Alban ar y llwyfan rhyngwladol, yn dathlu ei benblwydd yn 24 oed y diwrnod hwnnw ac roedd e’n benderfynol o gael dathlu mewn steil.

Chwalfa

Ar ôl galw’n gywir a gwahodd y tîm cartref i fatio, doedd hi ddim yn hir cyn i fowlwyr Morgannwg fanteisio ar yr amodau a’r llain, gyda dwy wiced yn ei belawd gyntaf ac ail belawd yr ornest.

Cipiodd Smith ei wiced gyntaf yn ail belawd yr ornest wrth i Graham Wagg ddal Nick Gubbins am un, cyn i’r bowliwr fowlio Stevie Eskinazi ar ddiwedd yr un belawd.

Daeth y drydedd yn ei belawd ganlynol, pan fowliodd e’r Gwyddel Eoin Morgan, capten undydd Lloegr, cyn bowlio Gwyddel arall, Paul Stirling, yn ei drydedd.

Gorffennodd ei bedair pelawd gydag un belawd ddi-sgôr, gan gipio pedair wiced ac ildio dim ond chwech o rediadau – y ffigurau mwyaf economaidd yn hanes gemau ugain pelawd Morgannwg.

Roedd Middlesex yn 20 am bedair, a wnaethon nhw ddim wir goroesi’r dechreuad gwael, wrth gael eu cyfyngu i 131 i gyd allan yn eu hugain pelawd, ac fe ddaeth yr unig gyfraniad o nod gan James Fuller, oedd heb fod allan ar 46.

Cwrso’r nod yn hawdd

Er i Forgannwg golli tair wiced erbyn yr wythfed pelawd, roedd 46 heb fod allan gan y capten Colin Ingram a 40 heb fod allan gan Kiran Carlson yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth yn y pen draw.

Tra bod Middlesex wedi gorffen ar waelod y tabl yn y pen draw, roedd Morgannwg yn chweched a heb wneud digon i sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf, dymor yn unig ar ôl cyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn Edgbaston.

Arweiniodd ei berfformiadau’r tymor hwnnw at alwad i garfan yr Alban yn 2019 am y tro cyntaf ers 2016, wrth i’w dîm cenedlaethol deithio i Oman ar gyfer cystadleuaeth oedd yn cynnwys Oman, yr Alban, Iwerddon a’r Iseldiroedd (oedd yn cynnwys ei gyd-chwaraewr ym Morgannwg, Timm van der Gugten).

Roedd hon yn un o nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd diwethaf oedd wedi ail-danio’r alwad am dîm cenedlaethol i Gymru.