Mae’r ymladdwr Conor McGregor wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol – am y trydydd tro ers 2016.

Daeth cadarnhad o benderfyniad y Gwyddel 31 oed ar ddiwedd UFC 250.

“Hei bobol, dwi wedi penderfynu ymddeol o ymladd,” meddai neges ganddo

“Diolch i chi gyd am yr atgofion anhygoel!”

Mae e wedi ennill 22 gornest a cholli pedair.

Mae e wedi “ymddeol” ddwywaith yn y gorffennol, yn 2016 a 2019.

Dim ond unwaith mae e wedi ymladd ers dychwelyd yn dilyn ei “ymddeoliad” diweddaraf, gan guro Donald Cerrone yn UFC 246 mewn gornest oedd wedi para 40 eiliad yn unig.

Roedd disgwyl y gallai ymladd yn erbyn Anderson Silva, Khabib Nurmagomedov a Jorge Masvidal yn y dyfodol agos.

Fe ddaeth i sylw’r byd paffio yn 2017 wrth droi ei sylw at y gamp ar gyfer gornest yn erbyn Floyd Mayweather, gan golli mewn deg rownd yn Las Vegas.