Gêm yn ystod tymor 2018 sydd dan sylw yn y darn diweddaraf yn edrych yn ôl ar rai o gemau criced Morgannwg o’r gorffennol.

Mae’n deg dweud nad oedd 2018 yn flwyddyn dda i Forgannwg, ac fe gafodd hynny ei amlygu gyda dau ymweliad trychinebus â chae Hove ar lan y môr yn Sussex.

Lai na mis ar ôl wynebu’r embaras o gael eu bowlio allan am 88 ac 85 yn eu gêm Bencampwriaeth, roedd y sir Gymreig yn ôl yno ar gyfer gêm ugain pelawd fyddai wedi sicrhau lle iddyn nhw yn rownd yr wyth olaf pe baen nhw wedi ennill yr ornest.

Prin y byddai neb wedi disgwyl ail chwalfa ar yr un cae o fewn cyfnod mor fyr, er mor siomedig oedd y tymor i Forgannwg, gyda’r penllanw’n dod ar ôl y gêm olaf pan gafodd Robert Croft ei ddiswyddo o’i rôl yn brif hyfforddwr.

Seren yr ornest, heb amheuaeth, oedd Tymal Mills, bowliwr cyflym llaw chwith oedd wedi torri’i gefn rai blynyddoedd ynghynt ac a oedd, felly, wedi’i gyfyngu i chwarae gemau undydd yn unig.

Hon oedd ei gêm gynta’r tymor hwnnw, ac roedd e’n gwbl ganolog i’r fuddugoliaeth gyda hatric i waredu Morgannwg am 88 mewn 13.3 pelawd, wrth i’r Saeson ennill yn swmpus o 98 rhediad.

Er mor brin yw hatric mewn gemau ugain pelawd, llwyddodd Sussex i gipio dau y tymor hwnnw – y llall gan Jofra Archer – a’r trydydd gan Joe Denly, troellwr Caint.

Doedd batiad Morgannwg ddim wedi dechrau’n wych i Mills, ildiodd 20 o rediadau yn ei ddwy belawd gyntaf.

Ond un ar ôl y llall, fe ddychwelodd Andrew Salter, Timm van der Gugten a Michael Hogan i’r cwt.

Ysgrifen ar y mur

Ond roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg pan gollon nhw Colin Ingram, un o’r perfformwyr prin mewn gemau ugain pelawd y tymor hwnnw.

Cyn yr ornest hon, roedd gan y gŵr o Dde Affrica gyfartaledd batio o 67.67 a chyfradd sgorio o 165 ac felly, roedd y frwydr rhyngddo fe a Jofra Archer, bowliwr sy’n gallu cyrraedd cyflymdra o 90 milltir yr awr yn ddigon aml, yn un allweddol.

Bu’n rhaid i Archer fodloni ar gamergyd y batiwr i’w waredu, wrth iddo gael ei ddal yn syth ar yr ochr agored wrth geisio tynnu’r bêl.

Cwympodd yr holl wicedi am 38 o rediadau mewn 9.1 belawd ar ôl dechrau’n gadarn.

Aeth Sussex yn eu blaenau i gyrraedd Diwrnod y Ffeinals, cyn colli yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn y rownd derfynol, ond gorffennodd Morgannwg yn chweched yn eu grŵp, flwyddyn yn unig ar ôl iddyn nhw hefyd gyrraedd Diwrnod y Ffeinals a cholli yn erbyn y Birmingham Bears yn y rownd gyn-derfynol.