Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo Korey Smith, cyn-chwaraewr canol cae Bristol City, ar gytundeb dwy flynedd.
Fe adawodd Bristol City ar ôl chwe thymor yr wythnos hon, ar ôl chwarae 196 o weithiau i’r clwb, a’u helpu nhw i ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth a Thlws y Gynghrair Bêl-droed yn 2015.
Sgoriodd e’r gôl fuddugol yn erbyn Manchester United yng Nghwpan Carabao yn 2017, wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Cyn chwarae i Bristol City, cafodd e gyfnodau hefyd yn chwarae i Norwich, lle’r oedd e’n gapten ar y tîm ieuenctid ac yn aelod o’r tîm gododd i’r Bencampwriaeth a’r Uwch Gynghrair ddau dymor yn olynol.
Mae e hefyd wedi chwarae i Oldham, ac wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Barnsley a Yeovil.
Chwaraeodd ei gêm olaf i Bristol City yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Liberty fis diwethaf, wrth i’r Elyrch ennill o 1-0 ar eu ffordd i’r gemau ail gyfle.
Yn y cyfamser, mae lle i gredu bod yr Elyrch yn agos at gadw’r golwr Freddie Woodman ar fenthyg o Newcastle am dymor arall.