Fe fydd tîm criced Morgannwg yn chwarae yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd am y tro cyntaf y tymor hwn wrth groesawu Swydd Gaerloyw ar gyfer gêm pedwar diwrnod yn Nhlws Bob Willis heddiw (dydd Sadwrn, Awst 15).

Mae un newid yn y garfan, wrth i’r Cymro Lukas Carey gael ei ddewis fel bowliwr cyflym yn lle Michael Hogan, sy’n gorffwys ar ôl chwarae yn y ddwy gêm gyntaf.

Cafodd y sir Gymreig hwb yn eu gêm ddiwethaf yng Nghaerwrangon wrth achub yr ornest i orffen yn gyfartal, ond daw Swydd Gaerloyw i Gaerdydd ar ôl curo Swydd Warwick o 78 rhediad yn eu gêm ddiwethaf ym Mryste.

Morgannwg oedd yn fuddugol ym Mryste y tymor diwethaf, wrth i’r batiwr tramor Marnus Labuschagne helpu i gwrso 188 mewn 49 pelawd, wrth i Michael Hogan gipio pedair wiced am 22 gyda’r bêl yn yr ail fatiad.

Ond y Saeson oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd yng Nghaerdydd yn 2018, gyda Jack Taylor yn taro canred a’i frawd Matt yn cipio pum wiced yn yr ail fatiad.

Tarodd y batiwr ifanc Ben Charlesworth 72, a chipiodd Craig Miles wyth wiced yn y gêm.

Roedd yr ornest yng Nghaerdydd yn 2017 yn un gofiadwy i Kiran Carlson, wrth i’r batiwr ifanc o Gaerdydd sgorio 191 a dod o fewn naw rhediad i fod y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred a chanred dwbwl i Forgannwg.

Cerrig milltir

Mae sawl carreg filltir ar y gorwel i chwaraewyr Morgannwg.

Mae Michael Hogan un wiced yn brin o 600 o wicedi dosbarth cyntaf yn ei yrfa, ond fe fydd rhaid iddo fe aros ychydig yn hirach am y wiced honno.

Mae Graham Wagg, y bowliwr cyflym llaw chwith bedair wiced yn brin o 250 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg, tra bod y batiwr llaw chwith Billy Root 53 rhediad yn brin o 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), K Bull, L Carey, K Carlson, T Cullen, M de Lange, D Douthwaite, C Hemphrey, B Root, N Selman, C Taylor, T van der Gugten, G Wagg

Carfan Swydd Gaerloyw: B Charlesworth, C Dent (capten), M Hammond, G Hankins, R Higgins, T Lace, D Payne, G Roderick, G Scott, J Shaw, T Smith, J Taylor, M Taylor, G van Buuren

Sgorfwrdd