Doedd dim criced ar ddiwrnod cyntaf gêm gynta’r tymor yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Awst 15) yn dilyn glaw trwm drwy gydol y dydd.

Swydd Gaerloyw yw’r ymwelwyr cyntaf â Gerddi Sophia, wrth i Forgannwg gynnal eu gêm gartref gyntaf yn Nhlws Bob Willis yn dilyn dwy gêm oddi cartref yn Taunton a Chaerwrangon i ddechrau’r tymor byr.

Daeth y penderfyniad terfynol i ddod â’r diwrnod cyntaf i ben am 4 o’r gloch, a hynny ar ôl i’r dyfarnwyr archwilio’r cae dair gwaith yn ystod y dydd.