Mae’r chwaraewr canol cae 31 oed Elliott Durrell wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Wrecsam unwaith eto, a hynny ar gytundeb un tymor.

Treuliodd e 15 mis ar y Cae Ras rhwng 2014 a 2015, gan chwarae mewn 30 o gemau yn y gynghrair a sgorio pedair gôl.

Fe fydd yn ail-gydio yn ei berthynas â’r rheolwr Dean Keates, oedd yn chwarae ochr yn ochr â fe i’r clwb, yn ogystal â Jay Harris.

Roedd Durrell yn chwarae i Altrincham yn fwyaf diweddar, ac mae e hefyd wedi chwarae i Tamworth, Caer, Macclesfield a Chaerefrog.