Mae chwaraewr canol cae newydd Abertawe’n dweud ei fod e’n benderfynol o ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr gyda’i glwb newydd.

Mae Korey Smith, cyn-gapten 29 oed Bristol City, wedi ymuno â’r Elyrch ar gytundeb dwy flynedd ar ôl gadael ei hen glwb ar ddiwedd ei gytundeb yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n dod â chryn brofiad i garfan ifanc yr Elyrch, ac yntau wedi ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth yn ystod ei chwe blynedd gyda Bristol City.

Ac mae e eisoes wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn ystod ei yrfa, a hynny pan oedd e’n chwarae i Norwich wrth iddyn nhw sicrhau dau ddyrchafiad mewn dau dymor.

Daeth Abertawe o fewn trwch blewyn i rownd derfynol y gemau ail gyfle eleni, wrth golli dros ddau gymal yn erbyn Brentford.

“Dw i ddim wedi dod yma i gael gwyliau,” meddai Korey Smith.

“Dw i eisiau rhoi cynnig ar ddychwelyd y tîm hwn i’r Uwch Gynghrair, dyna fy nod.

“Cafodd Abertawe dymor da y llynedd, ond dw i yma am sawl blwyddyn a gobeithio y galla i helpu’r tîm i ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair.”

Mae’n dweud mai cyfuniad o chwaraewyr hen ac ifanc, rheolwr da a chefnogwyr sy’n dal i gredu yw’r gyfrinach i lwyddo.

Ac mae’n dweud hefyd fod gweledigaeth y rheolwr Steve Cooper wedi creu argraff arno fe.

“Mae gyda fi deulu ifanc, ac ro’n i eisiau gallu setlo’n gyflym, a do’n i ddim wir eisiau aros.

“Pan ddaeth y cyfle yma, fe wnes i fachu arno fe, a bod yn onest.

“Dw i a fy nheulu wedi cyffroi’n fawr o gael dod yma.

“Mae gyda fi ddau fachgen bach sy’n methu aros i fynd i’r traeth a mwynhau hufen iâ Joe’s rydyn ni wedi clywed cymaint amdano fe.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at y cyfan.”