Mae’r Sais Lewis Hamilton wedi ennill Grand Prix Barcelona.

Roedd e ar y blaen ar ddiwedd pob lap trwy gydaol y ras, ac mae wedi ymestyn ei flaenoriaeth ar frig Pencampwriaeth y Byd.

Enillodd e’r ras gan orffen 24.1 eiliad o flaen Max Verstappen, ac roedd Valtteri Bottas yn drydydd.

Dyma fuddugoliaeth rhif 88 ei yrfa – tair yn brin o record Michael Schumacher.

Mae e bellach wedi gorffen ar y podiwm fwy o weithiau na neb arall yn hanes y gamp (156), un yn fwy na Schumacher.