Bydd Freddie Woodman yn aros gydag Abertawe ar fenthyg o Newcastle am dymor arall.

Mae’r golwr 23 oed hefyd wedi ymestyn ei gytundeb gyda Newcastle.

Chwaraeodd e 43 o weithiau i’r Elyrch y tymor diwethaf, gan gadw 12 llechen lân wrth i’r tîm gyrraedd rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Ond fe ddeth ei dymor i ben yn gynnar pan gafodd ei anafu yn y gêm yn erbyn Leeds a methu chwarae yn y gemau tyngedfennol.

Fe wynebodd e bum cic o’r smotyn yn ystod y tymor, gan arbed tair ohonyn nhw.

Mae disgwyl iddo frwydro yn erbyn Steven Benda a Josh Gould am le yn y tîm.

Roedd e’n aelod o garfan dan 17 Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 2017 o dan arweiniad Steve Cooper, rheolwr yr Elyrch.