Daeth y glaw i ohirio embaras tîm criced Morgannwg am y tro, wrth iddyn nhw orffen ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Nhlws Bob Willis gyda sgôr o 80 am bump yn eu batiad cyntaf.

Doedd dim criced yn bosib ar y diwrnod cyntaf ddoe (dydd Sadwrn, Awst 15) oherwydd y glaw, ac fe ddaeth unwaith eto ar ôl te ar yr ail ddiwrnod.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg wedi llithro ar ôl colli un wiced ar ôl y llall ar ôl i’r ymwelwyr alw’n gywir a phenderfynu bowlio.

Cipiodd Josh Shaw ddwy wiced mewn pelawdau olynol i roi ei dîm ar ben ffordd, ac fe gollodd y tîm cartref yr holl wicedi yn ystod sesiwn y prynhawn am ddim ond 53 o rediadau, ar ôl bod yn 27 heb golled erbyn amser cinio.

Manylion y dydd

Roedd oedi am awr ar ddechrau’r dydd oherwydd y glaw hefyd, ac fe fydd Morgannwg yn difaru na chafodd yr ail ddiwrnod ei ganslo hefyd.

Bowliodd David Payne bum pelawd, a phedair ohonyn nhw’n ddi-sgôr, wrth iddo fe gael ei gefnogi gan Ryan Higgins o ben arall y llain.

Roedd yr agorwyr Nick Selman a Charlie Hemphrey dan bwysau o’r cychwyn cyntaf yn sgil y bowlio cywir, ac fe lwyddon nhw i sgorio dim ond 27 o rediadau mewn 18 pelawd cyn cinio.

Roedd y ddau yn ôl yn y pafiliwn yn fuan wedi’r egwyl, wrth i Shaw gipio’u wicedi mewn pelawdau olynol.

Cafodd Nick Selman ei ddal gan George Hankins yn y slip cyn i Hemphrey gael ei fowlio wrth i’r bêl wyro tra ei fod e’n chwarae ergyd amddiffynnol.

Cafodd Kiran Carlson ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Matt Taylor, cyn i’r capten Chris Cooke gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan David Payne.

Tom Cullen, y wicedwr wrth gefn sy’n chwarae fel batiwr, oedd y nesaf allan, wrth iddo gael ei ddal gan Roderick oddi ar fowlio George Scott ar ôl partneriaeth o 20 gyda Billy Root, sydd heb fod allan ar 18.