Mae cyn gôl geidwad Cymru, Dai Davies, sydd yn 72 mlwydd oed, yn cael triniaeth yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam ar ôl cael diagnosis o ganser y pancreas.
Cynrychiolodd Cymru ar 52 achlysur a chwaraeodd i Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers a Bangor yn ystod ei yrfa.
Cafodd ei urddo i’r orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978 – y pêl droediwr cyntaf i fod yn aelod o’r orsedd.
Mae ei deulu wedi rhannu neges ar gyfryngau cymdeithasol yn galw ar bobol i rannu straeon, negeseuon ac atgofion gyda’r cyn gôl geidwad.
“Os hoffech i ni basio neges ymlaen byddai’n bleser cael eu darllen iddo”, meddai’r teulu.
Send Dai a message, Wrexham legend ✊️❤️???????⚽️Mae Dad (Dai Davies) wedi cael gofal bendigedig yn Ysbyty Royal Lerpwl…
Posted by Ap Dafydd on Sunday, 16 August 2020