Mae Seland Newydd wedi cael gwared ar y coronafeirws o’r wlad, yn ôl swyddogion iechyd.

Yn ôl adroddiad ddydd Llun, (Mehefin 8), mae’r person diwethaf y maen nhw’n tybio i gael ei heintio bellach wedi gwella.

Mae 17 diwrnod ers i achos newydd gael ei gofnodi yn Seland Newydd, a heddiw (Mehefin 8), oedd y diwrnod cyntaf  ers diwedd Chwefror heb unrhyw achosion o gwbl.

‘Ymdrech barhaus’

Arweiniodd y newyddion at Lywodraeth Seland Newydd i gyhoeddi y gall pob math o ddigwyddiadau cyhoeddus ail-gychwyn heb gyfyngiadau na chanllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Er hyn, mae swyddogion iechyd yn rhybuddio y gallai achosion newydd gael eu mewnforio i’r wlad, sydd wedi cau ei ffiniau i bawb ond dinasyddion a thrigolion, gyda rhai eithriadau.

“Rydym yn hyderus ein bod wedi cael gwared ar drosglwyddo’r firws yn Seland Newydd am y tro, ond mae’n ymdrech barhaus,” dywedodd Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern mewn cynhadledd newyddion.

“Mae bron yn sicr y byddwn yn gweld achosion yma eto … ac nid yw hynny’n arwydd ein bod ni wedi methu, dyma realiti’r firws hwn. Ond os a phan mae hynny’n digwydd, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr  ein bod yn barod.”

Rheolaeth o’r dechrau

Mae arbenigwyr yn dweud bod nifer o ffactorau wedi helpu’r genedl o 5 miliwn i ddileu’r firws.

Rhoddodd ei lleoliad diarffordd yn ne’r Môr Tawel amser hollbwysig i weld sut yr oedd achosion yn lledaenu mewn gwledydd eraill, a gweithredodd Jacinda Ardern yn bendant drwy osod cyfyngiadau llym yn gynnar yng nghyfnod yr achosion.

Fe wnaeth ychydig dros 1,500 o bobl ddioddef o’r  firws yn Seland Newydd, gan gynnwys 22 a fu farw.