Mae merch dair oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Llangefni brynhawn dydd Sul, (Mehefin 7).

Cafodd yr heddlu eu galw i toc cyn 5pm yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad yn ardal Pencraig rhwng car Ford Focus du a phlentyn, a bod y gyrrwr wedi gadael y safle ar droed.

Cafodd y ferch ei chludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau i’w phen.

Cafwyd hyd i’r gyrrwr, dyn lleol 19 oed, yng nghanol tref Llangefni ychydig yn ddiweddarach lle cafodd ei arestio a’i gadw yn y ddalfa.

Apelio

“Rydyn ni’n  apelio am unrhyw un a allai fod wedi gweld y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, neu i unrhyw un a welodd y digwyddiad ac sydd eisiau siarad â ni, i gysylltu â ni ar unwaith,” meddai Sarjant Meurig Jones o’r Uned Plismona Ffyrdd.

“Mae’r plentyn yn yr ysbyty yn Lerpwl, ond dydyn nhw ddim yn credu bod ei hanafiadau, diolch byth, am beryglu ei bywyd.

“Mae’r dyn 19 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o sawl trosedd yrru,  gan gynnwys gyrru dan ddylanwad cyffuriau, methu â stopio, a gyrru heb drwydded neu yswiriant wedi ei ryddhau tra’n aros am ymchwiliad pellach.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo gyda’r ymchwiliad gysylltu â’r heddlu ar 101 neu drwy’r sgwrs fyw ar y we gan ddyfynnu cyfeirnod Y081556.