Mae cyfnod y gwarchae yn sgil y coronafeirws wedi dangos yr anwybodaeth yn y cyfryngau Prydeinig ynglŷn â bodolaeth Cymru fel cenedl yn ogystal â datganoli, yn ôl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.

O ganlyniad, mae’r corff wedi datgan bod angen sefydlu pedwar o reoliadau newydd ar frys ar gyfer darparwyr newyddion, sy’n darlledu neu gyhoeddi yng Nghymru.

Maen nhw’n dweud bod angen gwneud hyn “er mwyn iechyd a diogelwch pobl Cymru, sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn y wybodaeth gywir, ac er lles a datblygiad democratiaeth y genedl.”

Cwbl anaddas”

 “Mae’r rheoliadau fel ag y maen nhw yn gwbl anaddas. Maen nhw’n peryglu bywydau ein dinasyddion,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Mae wastad wedi bod angen am ddiwygio’r rheoliadau, ac mae hyn wedi cael ei amlygu ymhellach yn ystod y pandemig hwn. Heb ddiwygio’r rheoliadau mae ein democratiaeth mewn perygl mawr.

“Rydym felly yn galw ar ein Llywodraeth a’n Senedd i symud ymlaen â’r rheoliadau hyn ar frys. Mae’n debygol iawn y byddai angen i ni ddatganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn cyflawni’r rhain. Felly mae angen i ni symud yn gyflym.”

Mae’r pedair rheol sy’n cael eu hargymell yn cynnwys:

  • Rhaid i ddarlledwyr newyddion fod yn berffaith glir am y gyfraith fel y mae yng Nghymru;
  • Rhaid i newyddion am faterion cyfoes pedair gwlad arall Ynysoedd Prydain beidio â rhoi mwy o sylw i un o’r gwledydd na’r lleill;
  • Rhaid i newyddion rhyngwladol beidio â rhoi mwy o sylw i genhedloedd Saesneg eu hiaith y byd na gwledydd eraill y byd;
  • Wrth ddarparu unrhyw newyddion o San Steffan, law yn llaw â hynny rhaid darparu’r newyddion ar y pwnc hwnnw fel ag y mae yn ein sefydliadau democrataidd ni – boed hynny yn y Senedd neu yn ein Hawdurdodau Lleol neu yn ein Cynghorau Cymuned/Tref.

Cafodd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol ei sefydlu fis Awst 2019 i ddatblygu rheoliadau ar gyfer darlledu yng Nghymru.  Ers hynny mae wedi gweithio ar lunio côd darlledu a chyhoeddi newydd sy’n addas i anghenion diwylliannol a gwleidyddol Cymru.

Dywed y corff eu bod nhw hefyd wedi gweithio ar ddiogelu hawliau sylfaenol trigolion, cynnal safonau a sicrhau tegwch.