Mae 54% o bobol ifanc rhwng 12 a 18 oed gafodd eu holi ar gyfer arolwg cenedlaethol am y coronafeirws yn poeni y byddan nhw ar ei hol hi gyda’u gwaith ysgol.
Gofynnwyd i blant a phobol ifanc Cymru am eu teimladau yn ystod pandemig y coronafeirws.
Cafodd 23,719 o blant a phobol ifanc rhwng 3-18 oed yng Nghymru eu holi ar gyfer yr arolwg.
Daw i’r casgliad fod plant a phobol ifanc Cymru yn gweld eisiau eu ffrindiau, yn pryderu y gallai eu perthnasau gael eu heintio gyda’r feirws, ac yn poeni am golli tir gyda’u gwaith ysgol.
Gwaith cartref
Roedd mwyafrif o blant a phobol ifanc Cymru (84%) yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ystod y pandemig.
Dywed 54% o’r bobol ifanc 12-18 oed eu bod nhw’n pryderu am golli tir gyda’u gwaith ysgol a dim ond 11% o’r grŵp oed yma ddywedodd eu bod nhw ddim yn pryderu am eu haddysg.
Dywed ychydig o dan hanner (48%) eu bod nhw ddim yn teimlo cymhelliad i wneud eu gwaith gartref.
Tra bod mwy na chwarter (27%), gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn dweud eu bod nhw ddim yn deall y gwaith oedd yn cael ei anfon atyn nhw.
Angen “mwy o gefnogaeth”
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru mae llawer o’r plant a’r bobl ifanc a gwblhaodd yr arolwg eisiau mwy o gyswllt ar-lein wyneb yn wyneb gydag athrawon.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cychwyn y cyfnod nesaf ar 29 Mehefin.
“Yn amlwg mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a theuluoedd ar draws y wlad,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
“Rydyn ni wedi clywed barn oedolion ar y materion sy’n codi o’r pandemig yn gyson, ond tan nawr bu’n drawiadol bod barn plant yn absennol.
“Mae’r proffesiwn addysg wedi gwneud ymdrech aruthrol i addasu ysgolion at ddiben gwahanol, darparu gofal plant mewn argyfwng a chadw mewn cysylltiad â’r plant.
“Mae’r athrawon hefyd wedi bod yn ddewr iawn yn gweithio mewn hybiau trwy’r argyfwng hwn. Ond mae’n amlwg bod llawer o blant a phobl ifanc eisiau mwy o gefnogaeth gyda’u dysgu gartref.”
“Pleser annisgwyl”
Dywedodd y Comisiynydd hefyd fod llawer o blant wedi mwynhau agweddau ar y cyfyngiadau symud.
“Trwy’r arolwg yma rydyn ni wedi gallu clywed gymaint mae llawer o blant a phobl ifanc yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu pryder y gallai perthnasau farw o’r feirws a’u pryder am eu dysgu, ond mae llawer wedi cael pleser annisgwyl yn y newidiadau dramatig i’w trefn ddyddiol.
“Mae llawer o benderfyniadau polisi anodd i’w gwneud mewn perthynas â’r Coronafeirws, ond bydd y canlyniadau hyn yn helpu’r Llywodraeth i gymryd stoc o’r holl faterion sy’n bwysig i blant wrth i ni symud ymlaen trwy’r sefyllfa hon.”
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Gomisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru.