Mae llefarydd addysg Plaid Cymru wedi galw am strategaeth glir ar gyfer cynnal profion Covid-19 i athrawon sy’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith pan fydd ysgolion yn ail-agor ddiwedd y mis.

Fe fyddai hyn yn ogystal â’r profion gwrthgyrff y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bydd yn cael eu cynnal.

Pwrpas y prawf gwrthgyrff yw dangos os yw rhywun wedi cael y coronafeirws yn y gorffennol ond nid yw’n dangos os yw rhywun yn heintus ar hyn o bryd.

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd, Siân Gwenllian, “fe ddylwn ni fod yn defnyddio popeth o fewn ein gallu i sicrhau diogelwch ein haddysgwyr.”

Mae disgwyl i ysgolion yng Nghymru ail-agor eu drysau i’r holl ddisgyblion ar Fehefin 29.

Mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi rhoi addewid y bydd athrawon yn un o’r grwpiau fydd yn “cael y flaenoriaeth” wrth gynnal profion gwrthgyrff ond nid oes dyddiadau wedi cael eu pennu ar gyfer hynny, meddai Plaid Cymru.

“Pwysau ychwanegol”

Dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn awyddus i weld athrawon yn cael y cyfle i gael yr holl brofion sydd ar gael a bod hynny’n digwydd cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r ysgol.

“Mae athrawon a chynorthwywyr dysgu, yn ddealladwy, yn bryderus am ddychwelyd i’r ysgol. Gyda chyn lleied o wybodaeth am y ffordd mae’r firws yn lledaenu, yn enwedig ymhlith plant, mae hyn yn amlwg yn achosi pwysau ychwanegol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod athrawon yn cael prawf gwrthgyrff a bod strategaeth glir ar gyfer cynnal profion mewn lle cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r ysgol. Os yw athro neu athrawes yn cael prawf gwrthgyrff negyddol fe allen nhw fod a’r firws o hyd er nad oes ganddyn nhw symptomau. Fe fyddan nhw wedyn yn dychwelyd i’r ysgol ac yn risg i’r rhai o’u cwmpas.

“Os ydyn ni’n darparu’r ddau brawf i athrawon fe fydd yn rhoi mwy o hyder iddyn nhw i ddychwelyd pan mae’n ddiogel.”

Mae Siân Gwenllian hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gadw at eu haddewid i beidio dwyn achos disgyblaeth yn erbyn unrhyw athro neu athrawes sy’n anfodlon dychwelyd i’r gwaith ar Fehefin 29.

“Fyswn i hefyd yn hoffi gweld mwy o adnoddau iechyd meddwl ar gael i athrawon sy’n bryderus am fynd yn ôl i’r ysgol,” meddai.