Bydd teithwyr sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig yn gorfod hunan ynysu am 14 diwrnod yn unol â mesurau’r Llywodraeth o heddiw (Mehefin 8) ymlaen.

Gall pobol sy’n gwrthod cydymffurfio wynebu dirwy o £1,000 yn Lloegr, gyda’r heddlu’n cael defnyddio “grym rhesymol” i sicrhau fod pobol yn dilyn y rheolau.

Bydd pob teithiwr, oni bai am ambell eithriad, yn gorfod llenwi ffurflen ar lein gan ddarparu manylion teithio yn ogystal â’r cyfeiriad lle maen nhw’n bwriadu hunan ynysu.

Bydd swyddogion ar y ffin yn gallu atal pobol o dramor rhag dod i’r wlad os nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r rheolau.

Os nad yw pobol yn llenwi’r ffurflen, byddan nhw’n derbyn dirwyo o £100.

“Anghyfreithlon”

Mae’r cynlluniau wedi derbyn beirniadaeth gref gan wrthbleidiau a rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, yn ogystal â’r diwydiant teithio.

Mae British Airways wedi dechrau achos cyfreithiol ynghylch beth maen nhw’n ei alw’n fesurau “anghyfreithlon” gan y Llywodraeth.

Yn ol undeb y GMB fe fydd y camau diweddaraf i geisio atal lledaeniad Covid-19 yn “drychinebus” i’r diwydiant awyrofod a’r economi yng Nghymru.

Mae dogfen o’r Swyddfa Gartref sydd wedi’i datgelu ym mhapur y Daily Telegraph yn dangos nad oes modd i swyddogion sicrhau fod manylion person yn ddilys.

Dywed yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel: “Rydym i gyd eisiau dychwelyd i fywyd normal cyn gynted â phosib ond all hynny ddim bod ar draul bywydau.

“Dyna pam mae’r mesurau yn dod i rym heddiw. Byddan nhw’n help i reoli’r feirws, gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac achub bywydau.”