Mae disgwyl i Minneapolis yn yr Unol Daleithiau gael gwared ag adran yr heddlu ar ôl i fwyafrif o aelodau cyngor y ddinas roi addewid i ddod a diwedd i blismona yn y ddinas fel y mae ar hyn o bryd.

Daw’r camau diweddaraf ar ôl i dalaith Minnesota ddechrau ymchwiliad hawliau sifil wythnos ddiwethaf yn dilyn marwolaeth y dyn du, George Floyd, dan law’r heddlu.

Roedd naw o’r 12 aelod o Gyngor Dinas Minneapolis wedi ymddangos gyda phrotestwyr mewn rali ddydd Sul (Mehefin 7) gan ddweud eu bod nhw eisiau creu llu heddlu o’r newydd.

“Mae’n amlwg nad yw’r system o blismona yn cadw ein cymunedau’n ddiogel,” meddai Lisa Bender, llywydd y cyngor. Dywedodd eu bod nhw eisiau “dod a diwedd i blismona fel y mae ar hyn o bryd ac ail-greu system sy’n ein cadw ni’n ddiogel.”

Mae pobl yn y gymuned wedi beirniadu’r adran yn Minneapolis ers blynyddoedd gan eu cyhuddo o fod a diwylliant hiliol.

Fe fydd newidiadau yn cael eu cyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.