Yn ôl yr Heddlu Metropolitan cafodd 12 o bobl eu harestio ac wyth o swyddogion yr heddlu eu hanafu yn ystod protestiadau gwrth-hiliaeth yng nghanol Llundain.
Roedd y rhan fwyaf o’r arestiadau yn ymwneud a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a chyhuddiad arall o achosi difrod troseddol.
Daw hyn wedi i Scotland Yard ddweud bod 29 wedi’u harestio ac 14 o swyddogion yr heddlu wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdaro gyda’r heddlu ddydd Sadwrn (Mehefin 6).
Roedd protestiadau Black Lives Matter wedi denu miloedd o bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig gan gynnwys Caerdydd, Caeredin a Manceinion. Cafodd y protestiadau eu sbarduno yn dilyn marwolaeth y dyn du, George Floyd, fu farw ar ôl i blismon gwyn yn Minneapolis yn yr Unol Daleithiau bwyso ar ei wddf ar Fai 25.
“Dwyn i gyfrif”
Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel bod yr ymddygiad treisgar yn ystod y protestiadau wedi tynnu sylw oddi wrth yr achos.
Roedd y protestiadau yn heddychlon ar y cyfan ond cafodd poteli eu taflu at yr heddlu mewn un digwyddiad toc cyn 9yh nos Sul (Mehefin 7) a chafodd bomiau mwg eu gollwng yn Whitehall.
Wrth drydar ei ymateb i’r protestiadau nos Sul, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson bod gan bobl “yr hawl i brotestio yn heddychlon tra’n ymbellhau’n gymdeithasol ond does ganddyn nhw ddim yr hawl i ymosod ar yr heddlu.”
Ychwanegodd y byddai’r rhai oedd wedi ymddwyn yn dreisgar “yn cael eu dwyn i gyfrif.”
Wrth siarad â The Guardian, dywedodd llefarydd cyfiawnder y Blaid Lafur David Lammy bod yn rhaid i’r Llywodraeth gydnabod bod “hiliaeth a gwahaniaethu yn bodoli yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â’r Unol Daleithiau.
“Mae’n rhaid i ni droi’r foment yma yn un o newid a chyfiawnder yn yr Unol Daleithiau hefyd,” meddai.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock bod yna “risg heb os” y bydd cynnydd mewn achosion o Covid-19 yn dilyn y protestiadau ac mae o wedi annog pobl i beidio ymgynull mewn grwpiau o fwy na chwech o bobl.
Minneapolis
Yn y cyfamser mae disgwyl i Minneapolis yn yr Unol Daleithiau gael gwared ag adran yr heddlu ar ôl i fwyafrif o aelodau cyngor y ddinas roi addewid i ddod a diwedd i blismona yn y ddinas fel y mae ar hyn o bryd.