Mae anghytundeb wedi codi ymhlith arweinwyr gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon a ddylai canmlwyddiant y dalaith gael ei ddathlu’r flwyddyn nesaf neu beidio.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Boris Johnson wrth ymweld â Swydd Down heddiw y bydd fforwm a phanel hanesyddol yn cael ei sefydlu i nodi can mlynedd ers sefydlu Gogledd Iwerddon ym mis Mai 1921.

Dywed Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ac Arweinydd y DUP, Arlene Foster, y gallai digwyddiadau’r flwyddyn nesaf gael eu cynnal mewn modd cynhwysol nad oedd yn achosi tramgwydd.

Ond mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Is Lywydd Sinn Féin, Michelle O’Neill, wedi dweud na fydd gwerinaethwyr yn anrhydeddu creu gwladwriaeth a adeiladwyd ar wahaniaethu crefyddol.

“Does dim amheuaeth ym meddyliau’r mwyafrif o bobol fod y rhaniad wedi bod yn fethiant i bawb, ein pobl, ein heconomi, a’n dwy ynys,” meddai Michelle O’Neill. Ychwanegodd ei bod hi’n bwysig bod gweriniaethwyr yn cymryd rhan yn y ddadl ynghylch y rhaniad a hynny er mwyn edrych tua’r dyfodol.

‘Rhan o’r Deyrnas Unedig ers 100 mlynedd’

Dywed y Prif Weinidog Arlene Foster ei bod hi’n credu ei fod yn garreg filltir y dylai pawb yng Ngogledd Iwerddon edrych ymlaen ato.

“Rwy’n credu ei fod yn ddigwyddiad ar gyfer Gogledd Iwerddon i gyd, gan edrych ymlaen at y dyfodol ac edrych ymlaen at weld ein pobol ifanc yn cael lle yn y byd – dyna beth rydw i eisiau ei weld yn digwydd ar gyfer ein cynlluniau canmlwyddiant.”

“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y realiti bod Gogledd Iwerddon yn rhan o’r Deyrnas Unedig ac wedi bod ers 100 mlynedd.”

Cydnabod gwahaniaethau barn

Dywed Boris Johnson ei fod yn cydnabod y bydd llawer o bobl yng Ngogledd Iwerddon na fydd arnyn nhw eisiau dathlu’r canmlwyddiant.

“O’m safbwynt i, mae’n rhywbeth i’w ddathlu oherwydd dw i’n credu yn yr undeb sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, y bartneriaeth wleidyddol fwyaf llwyddiannus yn unlle yn y byd,” meddai.

“Ond wrth gwrs dw i’n deall y bydd digon o bobl a fydd â barn wahanol.

“Os ydych chi’n galw’r canmlwyddiant yn ddathliad neu’n goffâd – mae’n bwysig iawn ei fod yn cael ei nodi.”