Mae Kieffer Moore wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Adar Gleision.

Mae’r chwaraewr a anwyd yn Torquay yn gymwys i chwarae i Gymru trwy ei daid – mae wedi ennill pum cap hyd yn hyn ac wedi sgorio dwy gôl ryngwladol.

Mae’n debyg roedd gan sawl clwb arall ddiddordeb yn y chwaraewr 28 oed sydd bellach wedi arwyddo a Chaerdydd o Wigan Athletic.

‘Edrych ymlaen i ddechrau arni’

Eglurodd Kieffere Moore ei fod wedi bod â diddordeb i chwarae i’r Adar Gleision ers hir.

“Mae’r diddordeb wedi bod yno ers cryn amser, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle”, meddai Kieffer Moore. 

“Rydw i wedi siarad â’r rheolwr a’i fwriad yw cael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, rywbeth rydw i hefyd yn awyddus i’w wneud.

“Roedd y cefnogwyr yn ran fawr o’r dewis i mi.

“Rwy’n gwybod fy mod i’n mynd i chwarae pêl-droed da iawn yma – ac mae cael cefnogaeth y cefnogwyr o’r dechrau yn anhygoel.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r bechgyn i gyd a dechrau arni.”

Ychwanegodd Neil Harris, Rheolwr Caerdydd: “Rwy’n falch iawn o’i gael o yma o’r diwedd.”

“Nid yw’n gyfrinach ein bod wedi bod ar ei ôl ers mis Ionawr, ond nid oedd hynny’n bosib ar y pryd.

“Roedd tipyn o gystadleuaeth i’w arwyddo, felly hoffwn ddiolch i Tan Sri Vincent, Mehmet Dalman a Ken Choo am eu cefnogaeth i wneud i hyn yn bosib.

“Mae Kieffer yn ymosodwr o safon uchel ac mae ein cefnogwyr yn gwbl ymwybodol iawn o’i allu.”