Mae gyrrwr beic modur 28 oed o Lannau Mersi wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Rhuthun neithiwr (dydd Mercher, 12 Awst).

Yn fuan wedi 4 o’r gloch y prynhawn galwyd y gwasanaethau brys yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd ar yr A494.

Er gwaethaf ymdrechion y cyhoedd a’r Heddlu i berfformio CPR arno bu farw’r gyrrwr beic modur yn y fan a’r lle.

“Rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffordd ddifrifol a ddigwyddodd tua 4 y prynhawn, dydd Mercher, 12 Awst ar yr A496 ger Pentre Smithy, tua hanner milltir o Ruthun tuag at yr Wyddgrug rhwng beic modur Suzuki glas a gwyn”, meddai’r Rhingyll Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd, sy’n arwain yr ymchwiliad.

“Os gall unrhyw un a oedd yn teithio rhwng Rhuthun a safle’r gwrthdrawiad gofio gweld beic modur o’r fath neu sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd, cysylltwch â ni”.