Mae undebau addysg yng Nghymru wedi mynegi eu pryder fod anghysondebau ymhlith canlyniadau Safon Uwch sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.

Daw hyn ar ôl i ganlyniadau heddiw ddangos bod 98.6% o fyfyrwyr wedi derbyn graddau A*-E, sef cynnydd o 1.0% ers y llynedd.

Yn ôl Undeb Addysg Genedlaethol Cymru mae 90% o benaethiaid yn anhapus â’r graddau Safon Uwch a ddyfarnwyd.

Or holl raddau Safon Uwch sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw, roedd 42.2% yn is na’r hyn oedd wedi’i roi gan athrawon.

Mae 53.7% wedi derbyn yr un radd, a 4.1% wedi cael gradd uwch.

Daw hyn ar ôl datganiad munud olaf brynhawn ddoe, gan Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, yn cadarnhau na fyddai marciau lefel A disgyblion Cymru yn is na’u marciau Lefel AS.

‘Canlyniadau wedi’u hisraddio’

Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol wedi mynegi amheuon am y model mathemategol a ddefnyddir gan Cymwysterau Cymru i gyfrifo’r canlyniadau.

“Mae pryder gwirioneddol mewn ysgolion ynghylch nifer o ddysgwyr bod eu canlyniadau wedi’u hisraddio o amcangyfrifon yr athrawon”, meddai Neil Foden, aelod o’r Undeb Addysg Genedlaethol.

“Mae’r model mathemategol a ddefnyddir gan Cymwysterau Cymru yn rhoi gormod o bwysau ar ddata cenedlaethol ac ymddengys ei fod yn gor-bwysleisio perfformiad mewn arholiadau Uwch Gyfrannol (AS) yn 2019.

“Mae dysgwyr o rhai ysgolion ble mae tystiolaeth ystadegol hirdymor yn dangos fod cynnydd fel arfer rhwng graddau UG a Safon Uwch wedi gweld eu canlyniadau yn cael eu hisraddio, mewn rhai achosion hyd at dair gradd o wahaniaeth.”

Ychwanegodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru yr Undeb Addysg Cenedlaethol ei fod yn cydnabod fod “anhawsterau yn mynd i godi wrth raddio Safon Uwch a chymwysterau eraill eleni gan nad oedd myfyrwyr yn gallu sefyll arholiadau allanol.”

“Fodd bynnag, mae’r ffaith bod Kirsty Williams wedi gwneud cyhoeddiad ar yr unfed awr ar ddeg yn cadarnhau y bydd problemau ar lefel unigol wedi eu hachosi o ganlyniad i broses safoni amherffaith”, meddai.

“Er ei fod yn siomedig y bydd newidiadau i rai graddau yn dod yn hwyr yn y dydd, rydym yn gobeithio bydd cynigion Llywodraeth Cymru – fel yr amlinellir gan y gweinidog – yn sicrhau tegwch i bobol ifanc sydd ar fin derbyn eu graddau.”

‘Anghysondebau lu’

Er fod mwy o fyfyrwyr wedi eu derbyn i brifysgolion eleni nag y llynedd mae UCAC hefyd wedi rhannu eu pryder am yr anghysondebau sydd wedi codi yn sgil cyhoeddiad Kirsty Williams.

“[Mae] pryderon mawr fod anghysondebau lu yn parhau ar lefel unigolion a chanolfannau, hyd yn oed o ystyried ‘gwarant’ y Gweinidog Addysg neithiwr”, meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Mae’n anorfod bod y newidiadau munud olaf a chanlyniadau unigolion am greu pryder di angen a mawr obeithiwn na welwn ail adrodd hyn wythnos nesaf.”

Bydd myfyrwyr TGAU yn derbyn eu canlyniadau yr wythnos nesaf, ar Awst 20.

‘Cydnabod llwyddiant’

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC hefyd wedi llongyfarch y rheiny sydd wedi derbyn y graddau yr oedden nhw eisiau, ac wedi diolch i athrawon yng Nghymru am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol yma.

“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled a llwyddiant ymgeiswyr ac athrawon heddiw, er gwaetha’r sefyllfa heriol iawn sydd yn ein hwynebu”, meddai Dilwyn Roberts-Young.

“Byddwn fel Undeb yn parhau i geisio eglurder o ran yr anghysondebau a chynnig cefnogaeth lawn i bob aelod ond rhaid yn awr rhoi’r sylw haeddiannol i ddathlu llwyddiant yr ymgeiswyr a dymuno’n dda iddynt.”