Mae cwnstabl heddlu wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig terfynol ar ôl iddi gyfaddef iddi gyflawni gweithredoedd rhywiol ag uwch-swyddog yn eu gorsaf heddlu.

Mi wnaeth Jemma Dicks, 28, gyflawni rhyw geneuol (oral sex) â’r cyn-sarsiant, Adam Reed, 40, yng ngorsaf heddlu Caerdydd Canolog o leiaf tair gwaith.

Ddydd Iau, clywodd gwrandawiad camymddygiad bod ei gweithredoedd wedi niweidio enw da yr heddlu, ond ei bod wedi dangos “edifeirwch go iawn” am yr hyn y gwnaeth hi.

Clywodd hefyd y byddai Adam Reed wedi colli ei swydd – ar unwaith – pe na bai eisoes wedi gadael Heddlu De Cymru pan ddaeth yr honiadau i’r fei.

Yn ôl y panel, roedd y cyn-sarsiant fel “ysglyfaethwr” yn y ffordd yr oedd yn “cynllwynio” y gweithredoedd rhyw. Mae ei enw wedi ei ychwanegu at restr gwahardd.

Sylw’r panel

“Roedd sarsiant Reed yn cynllunio’r gweithredoedd,” meddai Cadeirydd y panel, Emma Boothroyd. “Fodd bynnag, roedd Pc Dicks yn ymwybodol o’r rheswm am gwrdd ag ef.

“Dydyn ni ddim yn derbyn mai gweithredoedd ar hap yr oedd y rhain, nac ychwaith bod Pc Dicks dan ei reolaeth ef i’r pwynt lle nad oedd hi’n medru ystyried ei gweithredoedd yn iawn.

“Fe wnaeth Pc Dicks rhoi gwybodaeth o’i gwirfodd am ei gweithredoedd rhywiol ag ef, a doedd dim ymgais ar unrhyw bwynt i gelu’r gwir neu i ddweud celwydd am y mater.”