Mae ffigurau’n dangos fod mwy o fyfyrwyr wedi cael eu derbyn ar gyrsiau gradd mewn prifysgolion eleni ‘ii gymharu â’r llynedd.

Heddiw (Awst 13) mae myfyrwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

Mae ffigurau gan UCAS (Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau) yn dangos fod 415,600 o bobol, o wledydd Prydain a thramor, wedi cael eu derbyn gan brifysgolion eleni, cynnydd o 1.6% o’i gymharu â 2019.

Ymgeiswyr o wledydd Prydain

Ymhlith ymgeiswyr o wledydd Prydain, mae 358,860 wedi’u derbyn – cynnydd o 2.9% o’i gymharu â 2019.

O’r rhain, mae 316,730 wedi’u derbyn i’w dewis cyntaf – cynnydd o 2.9% o’i gymharu â 2019.

Hyd yn hyn, mae 4% o fyfyrwyr yn bwriadu gohirio dechrau eu cwrs, sef yr un gyfran ag y llynedd.

Llai o fyfyrwyr o Ewrop

Er bod y ffigurau yn dangos bod mwy o fyfyrwyr wedi cael eu derbyn i brifysgolion eleni, mae’r ffigurau hefyd yn dangos fod cwymp o 15.2% yn y nifer o fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n penderfynu astudio mewn Prifysgolion ym Mrhydain.

Ond mae nifer y myfyrwyr tramor, o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, wedi codi o 2%.

Cefndiroedd difreintiedig

Mae’r ffigurau yn dangos fod mwy o bobol o gefndiroedd difreintiedig wedi eu derbyn i brifysgolion nag erioed.

Mae 17.4% o bobol ifanc o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru wedi cael eu derbyn i’r brifysgol.

Mae cynnydd o 7.3% yn y nifer o bobol ddifreintiedig sydd wedi eu derbyn i’r brifysgol yn Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon mae 18.3% o bobol ifanc o gefndiroedd difreintiedig wedi eu derbyn i’r brifysgol.

Clirio

Yn ôl UCAS mae clirio yn llwybr poblogaidd i fyfyrwyr ddod o hyd i gwrs gradd, gyda phrifysgolion blaenllaw ymhlith y rhai sy’n cynnig llefydd munud olaf drwy’r system clirio.

Hyd yn hyn, mae 7,600 o bobol eisoes wedi dod o hyd i leoedd trwy glirio eleni.

‘Calonogol’

“Mewn blwyddyn wahanol i bawb, dylai myfyrwyr fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni”, meddai Clare Marchant, Prif Weithredwr UCAS.

“Mae’n arbennig o galonogol gweld y nifer uchaf erioed o bobol ifanc o gefndiroedd difreintiedig wedi cael eu derbyn i’r brifysgol, a chynnydd yn nifer yr ymgeiswyr sy’n cael eu derbyn i’w dewis cyntaf.”

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gan brifysgolion a cholegau cynlluniau mewn lle i groesawu myfyrwyr i’r brifysgol mewn modd diogel.