Ar ôl cael eu gohirio fis Mawrth i atal lledaeniad y coronaferiws bydd profion gyrru yn ailddechrau yng Nghymru wythnos nesaf (Awst 17).

Daw hyn ar ôl i wersi gyrru ailddechrau fis diwethaf (Gorffennaf 27) er mwyn rhoi cyfle i bobol ymarfer cyn i’r profion ail ddechrau.

Mae’r DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) yn annog dysgwyr i baratoi’n dda cyn trefnu prawf gyrru.

“Dw i’n gwybod bod llawer o ddysgwyr yn awyddus i gymryd eu prawf gyrru ond mae’n hollbwysig fod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth gywir i’w helpu trwy oes o yrru diogel cyn rhoi cynnig arno”, meddai Mark Winn, Prif Arholwr Gyrru DVSA.

“Dylai unrhyw un sy’n ail-archebu neu’n cymryd prawf sicrhau eu bod wedi cael digon o ymarfer gyda hyfforddwr gyrru proffesiynol a’u bod yn barod”.

“Dylai dysgwyr ymarfer gyrru ar amrywiaeth o ffyrdd ac o dan amodau gyrru gwahanol fel eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer gyrru’n annibynnol.”

Bydd dysgwyr a gafodd eu profion wedi eu gohirio yn cael eu blaenoriaethu cyn bydd y gwasanaeth trefnu prawf gyrru yn ail agor i bob ymgeisydd.

Bydd gofyn i ddysgwyr wisgo masg a bydd mesurau diogelwch mewn lle yn ystod y profion gyrru er mwyn diogelu’r dysgwyr ac arholwyr rhag Covid-19.

Rhannau eraill o’r DU

Ailddechreuodd profion gyrru yn Lloegr fis diwethaf (Gorffennaf 22).

Bydd profion gyrru yn ail ddechrau fis nesaf (Medi 1) yng Ngogledd Iwerddon.

Does dim dyddiad pendant wedi ei roi eto pryd bydd profion gyrru yn ailddechrau yn yr Alban.