Mae’r Gweinidog Addysg wedi’i beirniadu am gyflwyno newidiadau munud olaf i drefniadau lefelau A ac mae na alw am ddangos “mwy o gydymdeimlad” i fyfyrwyr TGAU pan fydd eu canlyniadau nhw yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.
Cafodd arholiadau eu canslo oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ac roedd disgwyl i ddisgyblion derbyn canlyniadau ar sail dau beth – amcan farc athrawon, a thrwy fformiwla arbennig.
Mewn datganiad munud olaf brynhawn ddoe, wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, gadarnhau na fyddai marciau lefel A disgyblion Cymru yn is na’u marciau Lefel AS.
Mae Dilwyn Robert-Young, o UCAC, wedi beirniadu’r Llywodraeth am beidio cael trefniadau digon cadarn yn y lle cyntaf, gan alw’r angen am newid munud ola’ yn “fater o bryder sylweddol iawn”.
“Mae’r holl newidiadau, ar y funud olaf, yn debygol o achosi straen, poen meddwl a dryswch,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.
“Yn ogystal, mae pryder yn parhau am y gweithdrefnau rhoddwyd yn eu lle yn y lle cyntaf.”
Canlyniadau TGAU
Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd hefyd wedi atseinio’r pryder hynny.
Bydd disgyblion TGAU yn derbyn eu canlyniadau’r wythnos nesa’, a rhaid dangos “mwy o gydymdeimlad” at y disgyblion rheiny, yn ôl llefarydd addysg y Blaid.
“Wnaeth newidiadau munud ola’ i drefn y lefelau A ychwanegu at y tensiynau i bobol ifanc sy’n aros am eu canlyniadau yn ystod cyfnod o boeni a becso,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’n bwysig nad yw’r un peth yn digwydd i ddisgyblion TGAU.”
Ailsefyll
Mae beirniadaeth wedi dod o gyfeiriadau eraill, ac ynghylch materion eraill, hefyd.
Bydd disgyblion yn Lloegr yn medru ailsefyll eu harholiadau yn yr hydref, ond fydd hynny ddim yn bosib i ddisgyblion yng Nghymru. Mae Plaid Brexit wedi galw am newid hynny.
“Dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu i ddisgyblion ailsefyll arholiad yn yr hydref,” meddai arweinydd y blaid yng Nghymru, Mark Reckless. “Dyna fyddai orau.
“Fel arall bydd disgyblion Cymru dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion yng ngweddill y Deyrnas Unedig,” meddai wedyn.
Llwybrau eraill
Mae Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig tros addysg, wedi galw ar i brifysgolion fod yn “hyblyg” â disgyblion o ystyried y sefyllfa sydd ohoni.
Ar gyfryngau cymdeithasol mae wedi rhannu erthygl sy’n dadlau nad y brifysgol yw’r opsiwn gorau i bawb. Ac mae’r Aelod o’r Senedd yn pryderu bod yna ormod o bwyslais ar y llwybr yma.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw ati yn awr i ganolbwyntio’n fwy ar golegau, a dysgu yn y gweithle,” meddai mewn datganiad. “Peidiwch â gadael i covid-19 ddiffinio eich dyfodol,” meddai wedyn.