Addo na fydd canlyniadau Lefel A yn is na graddau AS y disgyblion

Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cyhoeddi newidiadau i’r drefn am eleni ar ôl trafodaethau gyda chyrff arholi

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn
Llywodraeth Cymru

Mae Kirsty Williams y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi na fydd modd i ganlyniadau Safon Uwch disgyblion yng Nghymru fod yn is na’u canlyniadau Uwch Gyfrannol.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff arholi ar ôl newidiadau i’r system raddio mewn rhannau eraill o Brydain.

Roedd y Gweinidog Addysg am sicrhau myfyrwyr yng Nghymru, darpar gyflogwyr a phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig, bod graddau Safon Uwch yng Nghymru adlewyrchu gwaith caled disgyblion yma.

“Rwy’n gwarantu na all gradd Safon Uwch derfynol dysgwr fod yn is na’u gradd Uwch Gyfrannol”, meddai Kirsty Williams.

“Os bydd myfyriwr yn derbyn gradd derfynol yfory sy’n is na’i radd UG flaenorol, yna bydd gradd ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi’n awtomatig gan CBAC.

“Bydd hyn yn golygu – ac rwyf wedi derbyn sicrwydd gan UCAS a phrifysgolion – y gall myfyrwyr siarad yn hyderus â’u darpar brifysgolion ynghylch eu graddau Safon Uwch.”

‘Apêl am ddim’

Yn dilyn galwad gan Siân Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, am system apelio gadarn, annibynnol ac am ddim mae’r gweinidog addysg hefyd wedi cyhoeddi bydd pob apêl yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr yng Nghymru.

“Rwy’n cadarnhau heddiw y bydd pob apêl yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr o Gymru, er mwyn sicrhau nad oes rhwystr ariannol i sicrhau bod dysgwyr yn teimlo bod eu graddau arholiad yn deg”, meddai Kirsty Williams.

“Rwyf wedi gofyn i Gymwysterau Cymru, gan weithio gyda’r CBAC, weithio’n agos gyda chyrff cymwysterau cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau.

“Byddaf yn gofyn i Gymwysterau Cymru symud yn gyflym er mwyn gwneud yr addasiadau perthnasol i broses apelio yng Nghymru cyn gynted ag y bydd y cynlluniau hyn yn gliriach, er mwyn sicrhau nad yw myfyrwyr Cymru dan anfantais.”

Nid yw corff arholi OFQUAL wedi cyhoeddi manylion y broses apelio eto.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau yfory (Awst 13), tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn yr wythnos nesaf, ar Awst 20.

← Stori flaenorol

Degawd poethaf ers i gofnodion ddechrau

Mae adroddiad newydd yn dangos mai’r degawd diwethaf oedd y poethaf ers i gofnodion ddechrau.

Stori nesaf →

Refferendwm yr Alban

Pôl piniwn newydd yn cadarnhau’r gefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban

“Momentwm na ellir ei atal” tu ôl i gynnal ail refferendwm yn ôl yr SNP

Hefyd →

Llywodraeth Cymru’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion

Thema’r ŵyl eleni oedd modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu dynion