Dylai system apelio gadarn, annibynnol ac am ddim fod ar gael i bob myfyriwr safon uwch yng Nghymru, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg.

Daw sylwadau Siân Gwenllian ddiwrnod cyn i ddisgyblion yng Nghymru dderbyn eu canlyniadau safon uwch.

Cafodd arholiadau eu canslo yng Nghymru ac ar draws gwledydd Prydain eleni oherwydd y pandemig coronafeirws.

Dydd Mawrth (Awst 11) dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, Julie James ei bod hi’n hyderus na fydd helynt yn ymwneud a chanlyniadau arholiadau yng Nghymru.

“Dydyn ni ddim yn disgwyl i’r hyn ddigwyddodd yn Yr Alban i ddigwydd yma”, meddai.

Cafodd Llywodraeth yr Alban eu beirniadu am system graddau arholiadau oedd ei lle yn sgil y coronafeirws – bellach mae miloedd o ddisgyblion yno wedi cael gwybod bydden nhw’n cael canlyniadau uwch ar ôl i lywodraeth yr Alban gwympo ar ei bai.

‘System apelio ddiffygiol’

Yn sgil y coronafeirws mae Siân Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru dros Arfon, am weld system sy’n caniatáu i ddisgyblion apelio yn uniongyrchol.

Dan y system bresennol dim ond ysgolion sy’n cael apelio canlyniadau.

“Ar hyn o bryd mae’r broses apelio yn wan ofnadwy a ddim yn caniatáu i ddisgybl unigol i apelio’u graddau – mae rhaid i’r ysgol wneud hynny”, meddai Siân Gwenllian wrth Golwg360.

“Dwi’n credu dylai cael system sy’n caniatáu i ddisgyblion unigol apelio.

“Mae gormod o bwyslais wedi bod ar y system – nawr rhaid i ni weld ffocws ar yr unigolyn, a sicrhau na ddylai unrhyw berson ifanc ddioddef oherwydd y system ddiffygiol hon.

“Dyma’r peth lleiaf gallwn ni wneud, mae’r bobol ifanc yma wedi bod drwy gyfnod eithriadol o anodd oherwydd Covid, ar ben hynny mae’r holl bryder ynglŷn â’r canlyniadau – mae angen proses gadarn sy’n caniatáu disgyblion i apelio.”

Yn ôl adroddiad gan y Comisiynydd Plant mae 52% o blant rhwng 12 a 18 oed yn poeni sut bydd y coronafirws yn effeithio ar ganlyniadau eu harholiadau.

‘Cael cam’

Er bod Siân Gwenllian yn croesawu’r tro pedol gan Lywodraeth yr Alban mae’n cydnabod bod y system graddio yn wahanol yng Nghymru gan fod canlyniadau uwch gyfrannol yn rhoi “gwell dealltwriaeth i athrawon” o amcan raddau disgyblion.

“Dwi’n falch iawn fod Llywodraeth yr Alban wedi cwympo ar ei bai, ac mae’n braf gweld gwleidyddion yn gwneud hynny o dro i dro.

“Bydd rhaid disgwyl i weld beth yn union fydd y sefyllfa yma ddydd Iau.

“Os bydd miloedd o bobol ifanc yma hefyd yn teimlo ei bod nhw wedi cael cam mae angen cymryd camau penodol i unioni’r cam yna.”

Mae’r Aelod o’r Senedd hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y pryder y mae’r ansicrwydd hwn wedi ei achosi, ac i greu pecyn cefnogaeth am ddim i ddisgyblion sy’n cynnwys cyngor gyrfaoedd, cwnsela a system apelio annibynnol.

‘Tegwch’

Pwysleisiodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, fod y system yng Nghymru yn wahanol iawn i’r un yn yr Alban.

“Dw i’n hapus iawn i sicrhau pob dysgwr yng Nghymru fod y model yng Nghymru’n wahanol iawn [i’r un yn yr Alban]”, meddai yng nghynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth (Awst 10).

“Felly mae gyda ni ddull da o arholi i sicrhau bod myfyrwyr yn cael tegwch.”

Ychwanegodd y Gweinidog fod y broses cymedroli canlyniadau yng Nghymru yn ystyried gwaith sydd eisoes wedi ei gwblhau gan fyfyrwyr.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau yfory (Awst 13), tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn yr wythnos nesaf, ar Awst 20.