Mae tri o bobl wedi cael eu lladd mewn damwain drên yn swydd Aberdeen yn Yr Alban.

Mae adroddiadau fod gyrrwr y trên yn eu plith a bod sawl person arall wedi cael anafiadau difrifol yn y ddamwain achoswyd gan dirlithiad o ganlyniad i law trwm a llifogydd tua 9.40 y bore ddydd Mercher (Awst 12).

Roedd y trên pedwar cerbyd yn teithio o Aberdeen i Sonehaven.

Er nad yw wedi cadarnhau eto mae’n debyg fod 12 person ar y trên – chwe theithiwr a chwe aelod o staff.

Wrth siarad cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Iau, dywedodd Nicola Sturgeon fod adroddiadau cynnar yn awgrymu bod y rheini oedd ar y trên wedi cael “anafiadau difrifol”.

“Mae pawb sy’n gysylltiedig ar ddamwain yn ein meddyliau ni gyd yn y siambr”, meddai.

Cadarnhaodd yr Aelod Seneddol lleol Andrew Bowie ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd Trafnidiaeth Prydain, Grant Shapps ynglŷn â’r ddamwain.

“Mae’n amlwg yn sefyllfa ofnadwy – mae’r gwasanaethau brys yno.

“Rwyf eisoes wedi siarad â Grant Shapps, sydd wedi siarad â Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, sy’n cynorthwyo gyda’r ymchwiliad.

“Rwy’n ymwybodol bod Ysbyty Brenhinol Aberdeen wedi cyhoeddi digwyddiad difrifol.”

Yn ddiweddarach rhannodd y Prif Weinidog Boris Johnson ei dristwch o glywed am y ddamwain ar Twitter:

‘Cefnogi a rhoi cymorth’

“Bydd angen gwirio’r ffeithiau y tu ôl i’r digwyddiad hwn maes o law”, meddai Mick Lynch, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth.

“Ond ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ymdrech i gefnogi a rhoi cymorth i rheini sydd wedi’u heffeithio ac mae ein meddyliau gyda phawb mae’r drasiedi hon wedi effeithio arno.”